Os ydych chi'n teimlo bod dyfarniad Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB) yn afresymol, mae gennych chi'r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad gan hysbysu gweinidogion Cymru gan ddilyn Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apeliadau) (Cymru) 2018.
Fodd bynnag, mae Canllawiau Statudol Draenio Cynaliadwy (SuDS) Llywodraeth Cymru yn nodi mai'r ffordd orau o weithredu yw trafod a gweithio gyda'r SAB i ddod i ddealltwriaeth am unrhyw benderfyniadau sy'n ymwneud â SAB.
Yr Hyn mae modd cyflwyno apêl
Mae'r rheoliadau'n nodi y caiff datblygwr apelio yn erbyn penderfyniad gan hysbysu Gweinidogion Cymru ar y seiliau canlynol:
- Gwrthod cais am gymeradwyaeth.
- Gosod amod er mwyn cymeradwyo.
- Gwrthod cais i dderbyn.
- Gosod pwerau gorfodi
Effaith Apêl
Os ydych chi yn gwneud apêl yn erbyn penderfyniad, rhaid nodi dydy gwneud apêl ddim yn achosi i'r penderfyniad gael ei atal.
Os ydych chi'n apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch gosod amod o gymeradwyaeth, rhaid sicrhau bod unrhyw waith adeiladu ddim yn cychwyn neu barhau nes i benderfyniad gael ei wneud neu i'r apel gael ei thynnu'n ôl.
Pan fydd ymgeisydd yn apelio ar benderfyniad i gymeradwyo a dydy e ddim yn cadw at delerau'r Rheoliadau apêl, efallai y bydd yr ymgeisydd yn wynebu proses orfodi gan yr SAB.
Please Note
Nodwch:
Wrth benderfynu ar y cais, mae modd i Weinidogion Cymru gadarnhau, amnewid neu addasu'r penderfyniad trwy ddileu, amnewid neu osod amodau ar gyfer cymeradwyo.
|
Terfyn Amser ar gyfer gwneud Apêl
Rhaid apelio ymhen 6 mis o:
- Ddyddiad y penderfyniad.
- Dyma ddyddiad disgwyliedig y penderfyniad os bydd y corff cymeradwyo yn gwrthod y cais ar sail y ffaith na chyflawnwyd y penderfyniad mewn da bryd.
Gwneud Apêl
Er mwyn gwneud apêl ffurfiol, cysylltwch ag Arolygiaeth Gynllunio Cymru. Rhaid anfon copi o'r apêl at yr SAB yn ogystal. Yna bydd Arolygiaeth Gynllunio Cymru (PINS) yn delio â'r apêl ar ran Gweinidogion Cymru. Mae modd i chi gael copi o'r ffurflen i wneud apêl trwy gysylltu ag Arolygaeth Gynllunio Cymru (PINS):
Gwefan:https://llyw.cymru/yr-arolygiaeth-gynllunio?contact_us%2F=&_ga=2.228710428.103764317.1571222972-534395950.1556531007
E-bost: cymru@planninginspetoratewales.gov.uk
Ffôn: 0303 444 5940