Mae tyllau archwilio a chaeadau draeniau yn eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf a chyrff eraill, er enghraifft, cwmnïau Nwy, Trydan, Dŵr, a Chyfathrebu.
Caiff tyllau archwilio a chaeadau draeniau sy'n eiddo i'r Cyngor eu trwsio, eu newid neu'u haddasu o fewn saith diwrnod gwaith.
Caiff gwallau ar dyllau archwilio a chaeadau draeniau eraill eu hanfon ymlaen gan y Cyngor i'r cwmni priodol.
Mae modd i chi roi gwybod am wall gyda thwll archwilio neu gaead draen ar-lein
Os ydych chi o'r farn bod y broblem twll archwilio yn achos o argyfwng, a allai achosi niwed uniongyrchol yn syth, cysylltwch â ni ar ein rhif ffôn argyfwng 01443 425001 (y tu allan i oriau swyddfa 01443 425011).