Rydyn ni'n ceisio cael gwared ar rwystrau a sylweddau ar y ffordd ar unwaith neu pan fyddwn ni'n cael gwybod amdanyn nhw.
Mae modd i chi roi gwybod i ni am rwystr a allai fod yn beryglus, a allai amharu ar ddefnyddwyr ffyrdd neu a allai beri tagfeydd. Dyma rwystrau cyffredin:
- Rhwystrau cysylltiedig â'r tywydd – coed sydd wedi cwympo, llifogydd a lluwchfeydd eira
- Anifeiliaid meirw ar ffyrdd
- Coed a phlanhigion sydd wedi tyfu uwchben ffyrdd
- Baw/llanastr ar ffyrdd
- Sgipiau, sgaffaldiau, deunyddiau adeiladu neu gaffis stryd y mae angen trwydded i'w cynnal
- Hysbysfyrddau
- Waliau, gatiau, ffensys a pherthi ar draws y briffordd
- Nwyddau o flaen siopau a'r tu allan i gyrtiau blaen
Mae modd i chi roi gwybod ar-lein am un o'r rhwystrau neu sylweddau uchod sydd ar y ffordd neu'r palmant
Noder: Os ydych chi'n meddwl mai argyfwng yw'r mater, e.e. gallai achosi marwolaeth neu anaf, y tu allan i oriau swyddfa arferol (8.30am–5.00pm dydd Llun i ddydd Gwener), ffoniwch ein rhif argyfwng allan o oriau, sef 01443 425011.