Skip to main content

Croesfannau i gerddwyr

Gofyn am Groesfan Newydd i Gerddwyr

Mae’r Cyngor yn derbyn sawl cais bob blwyddyn am groesfannau newydd. Er mwyn helpu i ddefnyddio adnoddau prin i’r effaith orau, caiff pob safle ei ystyried yn erbyn canllawiau cenedlaethol a ddarperir gan yr Adran Drafnidiaeth. Y prif ffactorau a fesurir yw nifer y bobl sy’n croesi a faint o draffig sydd. Mae ffactorau eraill yn cynnwys nifer yr anafiadau ar y ffordd ger y safle a nodweddion lleol fel ysbytai, ysgolion a siopau.  

Cysylltu â'r Cyngor
Ffôn: 01443 844037
Ffacs: 01443 434812

Croesfannau Puffin (Croesfannau deallus sy’n gyfleus i gerddwyr sy’n eu defnyddio)

Mae croesfannau Puffin yn edrych yn debyg iawn i groesfannau Pelican. Mae croesfannau Puffin yn fersiwn fwy cyfoes o Groesfan Pelican. Un o’r prif wahaniaethau yw bod signalau’r dyn coch a gwyrdd ychydig uwchben y blwch AROS ac nid ar ochr arall y ffordd. Dylai cerddwyr bwyso’r botwm ar y bocs. Mae gan groesfannau Puffin synwyryddion arbennig ynddynt sy’n gallu datgelu cerddwr yn aros a sicrhau bod y traffig yn aros yn ei unfan hyd nes i’r holl gerddwyr groesi’r ffordd. Nid oes gan groesfannau Puffin ddyn gwyrdd sy’n fflachio ar gyfer cerddwyr na golau oren sy’n fflachio i yrwyr.

Pelican (Croesfannau i gerddwyr wedi’u rheoli gan olau)

Caiff croesfannau Pelican eu rheoli gan y cerddwr sy’n pwyso’r botwm ar y bocs AROS. Dylai cerddwyr groesi dim ond pan fydd y dyn gwyrdd yn goleuo ac ar ôl i’r holl draffig stopio. Weithiau mae swnyn i helpu pobl sy’n ddall neu â nam ar eu golwg i wybod pryd mae’n ddiogel i groesi. Fel arall gallai fod botwm sy’n troi o dan y bocs AROS, sy’n troi pan fydd y dyn gwyrdd yn goleuo. Ni ddylai cerddwyr ddechrau croesi os yw’r dyn gwyrdd yn fflachio. 

Croesfan Sebra

Mae gan y groesfan hon streipiau du a gwyn (fel sebra) a goleuadau sy’n fflachio ar y naill ben. Mae croesfan Sebra yn rhoi hawl dramwy i’r cerddwr pan fydd ei droed ar y groesfan. Fodd bynnag, dylai cerddwyr ofalu bod gan y traffig amser i stopio cyn camu i’r groesfan a pharhau i wylio a gwrando wrth groesi. Mae llawer o bobl yn galw am groesfannau Sebra gael eu newid yn groesfannau Puffin, gan gredu eu bod yn fwy diogel. Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod hanes diogelwch y ddau fath yn debyg iawn a bod croesfannau Sebra, mewn rhai achosion, yn fwy diogel.

Croesfannau Toucan  (Dau yn gallu croesi)

Darperir y croesfannau hyn ar gyfer cerddwyr a seiclwyr, fel arfer mewn mannau lle mae llwybrau seiclo’n croesi ffyrdd prysur. Maent yn debyg i groesfan Puffin gyda’r groesfan yn cael ei rheoli gan fotwm i’w bwyso ar y bocs AROS. Ar groesfan Toucan mae arwydd o feic gwyrdd a choch hefyd ynghyd â’r dyn coch a gwyrdd mwy cyfarwydd. Y brif fantais i seiclwyr yw nad oes angen iddynt ddod oddi ar eu beic i groesi. Mae gan groesfannau Toucan hefyd synwyryddion i ddatgelu cerddwyr sy’n defnyddio’r groesfan. Nid oes arwydd o ddyn gwyrdd yn fflachio ac mae’n rhaid i yrwyr aros am olau gwyrdd.

Llochesi i Gerddwyr

Mewn rhai mannau, lle na ellir cyfiawnhau lleoli croesfan cerddwyr, gellir rhoi lloches cerddwyr (ynys draffig). Mae’r rhain yn culhau’r ffordd ac yn caniatáu i gerddwyr ei chroesi mewn dau hanner gyda man diogel i aros yn y canol. Dylai cerddwyr groesi’n ofalus gan mai gan yrwyr mae’r flaenoriaeth ar ynysoedd traffig.