Rydyn ni’n trin adroddiadau am geudyllau yn y ffordd yn ddifrifol iawn. Bydd y safle yn cael ei arolygu gan swyddog priffyrdd sydd wedi'i hyfforddi'n briodol cyn gynted â phosibl.
Os yw’r broblem yn cael ei hystyried yn argyfwng h.y. gall achosi damwain, ffoniwch ein rhif tu allan i oriau gwaith: 01443 425011.
Os ydych chi am roi gwybod i ni am geudwll sy'n llai peryglus fodd bynnag, llenwch ein ffurflen ar-lein isod.
Rhoi gwybod am geudwll
Wrth roi gwybod inni am geudwll, rhowch gymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl ynglŷn â’i ddifrifoldeb a’i leoliad.
Pa mor gyflym ydyn ni'n trwsio ceudyllau?
Bydd y perygl i’r cyhoedd oherwydd y ceudwll yn y ffordd yn cael ei fesur yn erbyn amryw o feini prawf – yn ôl maint a dyfnder y twll, y lleoliad mewn perthynas â’r defnydd o’r ffordd, faint o draffig sydd ar y ffordd yna ac ar ba gyflymder bydd cerbydau’n teithio ayyb. Os bydd y ceudwll yn cael ei ystyried yn beryglus, byddwn ni’n ei drwsio ar frys.
Yn seiliedig ar y meini prawf uchod, mae ceudyllau yn cael eu dyrannu'n achosion brys neu achosion sydd ddim yn rhai brys.
- Achosion brys: Bydd y rhain yn cael eu trwsio neu'n cael eu gwneud yn ddiogel erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf ar ôl eu darganfod. Serch hynny, mae ceudwll sy'n cael ei ystyried yn beryglus iawn, ac sy'n gallu achosi damwain ffordd neu anaf, yn fater o argyfwng. Ein nod ni yw trwsio neu wneud ceudwll o'r fath yn ddiogel o fewn dwy awr.
- Achosionsy ddim yn rhai brys: Bydd y rhain yn cael eu trwsio o fewn 28 diwrnod ar ôl eu darganfod.
Nodwch: Os mai cyfrifoldeb cyrff allanol neu unigolion yw trwsio'r ceudwll, bydd manylion y difrod yn cael eu trosglwyddo i'r cyrff allanol neu'r unigolyn yn syth (os ydyn ni'n gwybod pwy ydyn nhw).
Pryd fydden ni'n cau ffordd?
Fel arfer, bydden ni’n rhoi gwybod ymlaen llaw am unrhyw gynlluniau i gau ffordd er mwyn ei thrwsio, ond os bydd argyfwng, er enghraifft, ymsuddiant, tirlithriad, difrod i grid gwartheg ayyb, mae’n bosibl y byddai rhaid i ni gau'r ffordd ar unwaith.
Yn yr amgylchiadau yma, byddwn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n gosod digon o arwyddion i ddangos llwybr teithio arall i chi ac yn cwblhau’r gwaith trwsio cyn gynted â phosibl.
Os bydd y ffordd ar gau oherwydd digwyddiad mawr fel tirlithriad neu ymsuddiant difrifol, byddwn ni’n rhoi gwybod ichi trwy’r cyfryngau lleol a rhoi’r newyddion diweddaraf iddyn nhw am gynnydd y gwaith. Bydd gwybodaeth am y math yma o achos o gau ffordd, hefyd ar dudalennau newyddion gwefan y Cyngor.
Os yw’r broblem yn cael ei hystyried yn argyfwng h.y. gall achosi damwain, ffoniwch ein rhif tu allan i oriau gwaith: 01443 425011.