Mabwysiadu ffyrdd yw'r term a gaiff ei ddefnyddio pan fydd y cyngor yn dod yn berchennog ar stryd breifat.
Ystyr stryd breifat yw ffordd sydd ddim yn cael ei chynnal a'i chadw ag arian cyhoeddus. Mae hyn yn golygu bod dim dyletswydd ar y cyngor, fel awdurdod priffyrdd, i drwsio na glanhau'r stryd. Mae hyn er gwaethaf unrhyw hawl tramwy cyhoeddus ble mae cyfraith priffyrdd a thraffig yn gymwys.
Fel arfer, caiff ffyrdd newydd sydd wedi'u cynllunio a'u hadeiladu yn unol â chanllawiau’r Cyngor eu mabwysiadu drwy gytundeb rhwng y datblygwr a'r Cyngor. Mae hyn yn unol â Deddf Priffyrdd 1980. Fel arfer, ni fyddwn yn mabwysiadu ffyrdd sy'n bodoli eisoes oni bai fod y perchnogion neu'r talwynebwyr yn sicrhau eu bod yn cyrraedd safon benodol.
Er enghraifft, gallai strydoedd preifat fod heb bafinau ac ymylon ffyrdd, carthffosydd dŵr wyneb, cwteri neu oleuadau. Mae'n debyg y bydd wyneb y stryd mewn cyflwr gwael.
O dan ddarpariaethau Adrannau 205 i 218 o Ddeddf Priffyrdd 1980, efallai bydd y Cyngor yn penderfynu codi safon stryd breifat nes iddo gyrraedd safon mabwysiadu. Ar ôl cwblhau'r gwaith trwsio angenrheidiol, mae'r weithdrefn yma yn galluogi'r Cyngor i fabwysiadu'r stryd fel priffordd y gallwn ei chynnal a'i chadw ag arian cyhoeddus. Caiff y costau ar gyfer y talwynebwyr eu dyrannu fel sy'n briodol.
Chwilio am Ffyrdd wedi'u Mabwysiadu
Defnyddiwch y map i chwilio am ffordd sydd wedi'i mabwysiadu.
Drwy ddefnyddio'r peiriant chwilio yma, rydych chi'n derbyn y Cyfyngiadau, yr Ymwadiad a'r Amodau sydd wedi'u nodi isod.
Mae ffyrdd sydd wedi'u mabwysiadu yn ymddangos yn goch ar y map.
Cyfyngiadau
Er ein bod wedi ymdrechu i sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir, rydym yn rhoi'r wybodaeth yma gyda phob ewyllys da, a byddwn yn ei diweddaru yn barhaus. O ganlyniad i hyn, ni ddylech ei ddefnyddio i osgoi cynnal ymchwiliad Pridiannau’r Tir Lleol ffurfiol.
Ymwadiad
Fyddwn ni ddim yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw wallau neu ddiffygion yn yr wybodaeth am fabwysiadu sy'n cael ei chodi o'n cofrestr ar-lein. Mae'r cwestiwn ynglŷn â chreu priffordd neu beidio o dan y gyfraith gyffredin yn fater ffeithiol a chyfreithiol. Yn y pen draw, bydd y llysoedd yn mynd i'r afael ag unrhyw anghydfod am y mater. O ganlyniad i hyn, y sawl sy'n gweld yr wybodaeth ar y wefan sy'n gyfrifol am unrhyw gamau gweithredu mae'n eu cymryd yn seiliedig ar yr wybodaeth honno.
Hawlfraint
Er gwybodaeth, mae'r cynlluniau, y darluniau a'r deunyddiau ar y safle wedi'u diogelu gan hawlfraint (Adran 47, Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988). O ganlyniad i hyn, ni allwch eu hargraffu heb gael caniatâd perchennog yr hawlfraint ymlaen llaw.
Problemau neu gwestiynau?
Oes unrhyw broblemau gennych chi o ran defnyddio'r peiriant yma, neu oes unrhyw gwestiynau gennych chi ynglŷn â'r wybodaeth sydd i'w gweld? Anfonwch y manylion mewn neges e-bost a byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i'ch helpu chi.
Gwasanaethau'r Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Tŷ Sardis,
Sardis Road,
Pontypridd,
CF37 1DU
Ffôn: 01443 425001