Os ydych chi'n bwriadu dathlu Coroniad y Brenin drwy trefnu parti stryd, yna mae'n rhaid i chi gael caniatâd gan y Cyngor er mwyn sicrhau bod modd cau'r stryd mewn modd cyfreithlon a diogel.
Mae'n cymryd amser i drefnu bod ffordd yn cael ei chau. Rhaid dilyn proses ymgeisio ffurfiol er mwyn cau unrhyw ffordd ar gyfer parti stryd, fel bod y Cyngor yn effro i bob un. Drwy hyn, bydd modd i'r Cyngor roi gwybod i sefydliadau partner eraill, gan gynnwys cwmnïau bysiau.
Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno cynnal parti stryd wneud cais i'r Cyngor cyn y dyddiad cau 3 Ebrill, 2023. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu derbyn. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad cau
Strydoedd preswyl tawel fydd yn cael eu hystyried yn rhai addas ar gyfer cynnal parti stryd. Mae strydoedd nad ydynt efallai’n addas yn briffyrdd prysur, neu’n rhai sydd â llwybr bws - bydd ceisiadau ar gyfer y mathau hyn o strydoedd yn cael eu hystyried yn unigol
Os ydych chi'n ystyried cynnal parti stryd, sicrhewch fod pob preswylydd y gallan nhw fod angen mynediad i gerbydau ar gyfer y stryd dan sylw yn cytuno â'r cais.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, anfonwch e-bost at yr Adran Rheoli Traffig: gwasanaethautraffig@rctcbc.gov.uk
Os nad ydy'ch stryd yn addas ar gyfer cau ffordd, efallai hoffech chi ddefnyddio lleoliadau oddi ar y stryd fel tramwyfeydd, gerddi, parciau, Canolfannau yn y Gymuned neu ysgolion. Bydd hyn yn osgoi unrhyw wrthdaro gyda defnyddwyr eraill y briffordd. Yn ogystal â hyn, os oes cyfleusterau dan do ar gael yn y lleoliad, fydd y parti ddim yn cael ei effeithio gan dywydd gwael.
Partion Stryd - Amodau Cyffredinol
Lle bo'r Awdurdod wedi rhoi caniatâd ar gyfer parti stryd, bydd yr amodau cyffredinol canlynol yn berthnasol ynghyd ag unrhyw amodau penodol mewn perthynas â stryd benodol: -
- Rhaid cadw mynediad i GERDDWYR at y stryd bob amser.
- Rhaid cadw mynediad UNIONGYRCHOL i holl "Gerbydau'r Gwasanaethau Brys" ar bob adeg, hynny yw, os ydych chi'n gosod unrhyw rwystrau corfforol ar draws stryd, rhaid i chi eu hadeiladu fel bod modd eu symud nhw yn syth os oes angen.
- Os oes ADDURNIADAU neu faneri yn y stryd, dylech chi sicrhau eu bod nhw ddim yn achosi rhwystr i "Gerbydau'r Gwasanaethau Brys", a rhaid bod modd eu symud nhw yn syth.
- Does DIM hawl rhoi polion yn arwyneb yr heol na'r palmant, oherwydd gallai hyn achosi difrod.
- Does DIM hawl gyda chi i hongian atodion o'r goleuadau stryd. Dylai fod modd symud addurniadau'n sydd ger goleuadau stryd.
- Does DIM hawl defnyddio ceblau trydan ar y briffordd, neu throsti.
- Bydd copi o'r 'HYSBYSIAD' i gau'r ffordd am gyfnod dros dro yn cael ei anfon atoch chi maes o law. Rhaid arddangos yr hysbysiad mewn lle amlwg ar naill ben y rhan o'r ffordd fydd ar gau, tan fod y ffordd yn ailagor.
- Rhaid i chi osod ARWYDDION ar naill ben y stryd sy'n dangos yn glir i yrwyr y cyfnod y bydd y ffordd ar gau, er enghraifft "Ffordd Ar Gau 11am tan 7pm". Mae hawl gyda chi wneud y rhain â llaw, ond mae'n rhaid bod modd eu darllen yn hawdd.
- Does dim hawl cynnal TÂN neu farbeciw o fewn terfynau'r priffyrdd. Mae hyn yn cynnwys pob ffordd gerbydau, llwybr cerdded, llwybr troed, ymyl, llain ganol a chylchfannau.
- Rhaid symud POB bwrdd, trestl, cadair, rhwystr, addurniadau ac ati, yn syth ar ôl yr achlysur, yn ogystal â chlirio unrhyw sbwriel a llanastr sydd ar y stryd.
- Rhaid i DREFNWYR yr achlysur roi ystyriaeth ddyledus i'r holl drigolion a darparu ar gyfer diogelwch a chysur yr henoed, pobl anabl a phlant ifainc iawn.
- Bydd TREFNWYR yr achlysur yn indemnio'r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn erbyn unrhyw ddamwain neu anaf sy'n codi o ganlyniad i'r achlysur.
- Rhaid i chi gynnal mynediad i GERBYDAU ar gyfer tramwyfeydd preifat, garejys ac ardaloedd parcio oddi ar y stryd ar bob adeg oni bai eich bod chi wedi cytuno â'r sawl sy'n cael eu heffeithio gan yr achlysur.
- Rhaid i Drefnwyr sicrhau bod mynediad yn cael ei gynnal ar gyfer unrhyw breswylwyr sydd angen ymweliadau at ddibenion gofal gan gynnwys presenoldeb gan weithwyr gofal.
- Dylai preswylwyr gadw o fewn y rheolau casglu gwastraff o ran peidio â gorlenwi eu bin a pheidio â halogi eu hailgylchu
- Os yw eich diwrnod casglu sbwriel ar yr un diwrnod â'ch parti stryd, bydd angen cyflwyno'r holl wastraff erbyn 7am fan bellaf. Gwneir pob ymdrech i wneud casgliadau cyn gynted â phosibl fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl, bydd angen i drigolion osod gwastraff mewn un pwynt
- Dim ond gan ymgeiswyr sy'n byw yn y stryd sydd i'w chau y gellir derbyn ceisiadau. Ni dderbynnir ceisiadau gan drigolion sy’n byw y tu allan i’r stryd dan sylw.