Mae Teithio Llesol yn cyfeirio at deithiau dyddiol â phwrpas sy'n cael eu cyflawni gan ddefnyddio dulliau nad ydyn nhw'n cynnwys cerbydau modur. Gallai hyn gynnwys teithiau ar droed, ar olwyn neu ar feic i'r gwaith, i'r ysgol neu'r siopau. Bwriad y teithiau yma yw gwella'ch iechyd a lleihau allyriadau, drwy beidio â defnyddio'r car i wneud teithiau byr. Mae gweithgaredd corfforol rheolaidd yn cynnig ystod o fanteision i'n hiechyd corfforol a meddyliol. Mae modd i deithio llesol helpu i leihau tagfeydd a llygredd sŵn, a gwella ansawdd awyr lleol.
Yn y wlad yma, mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar Gynghorau lleol i hyrwyddo mwy o gerdded a beicio ar gyfer teithiau bob dydd. Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf rwydwaith o lwybrau beicio a cherdded, gan gynnwys 6 llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae Carfan Teithio Llesol Rhondda Cynon Taf yn cynnal a chadw'r llwybrau yma, ac yn eu gwella. Maen nhw hefyd yn cynnal gwaith mapio ac yn hyrwyddo'r llwybrau ymhlith y cyhoedd.
Mae beicio yn ffurf eco-gyfeillgar a charedig i'r amgylchedd o deithio. Mae'n cynnig dewis realistig arall yn lle llawer o deithiau pellter byr sy'n cael eu gwneud mewn car ar hyn o bryd. Mae'r Cyngor, mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau, fel mudiad Sustrans, er enghraifft, yn cynnig y seilwaith angenrheidiol i hyrwyddo ac annog mwy o deithio ar gefn beic.
Adroddiadau
Bob blwyddyn mae Carfan Teithio Llesol y Cyngor yn cyflwyno adroddiad blynyddol ac adroddiad monitro i Lywodraeth Cymru. Mae modd gweld yr adroddiadau diweddaraf isod.
Bwriwch olwg ar ein hadroddiad blynyddol Teithio Llesol mwyaf diweddar
Bwrw golwg ar ein Hadroddiad Monitro Teithio Llesol mwyaf diweddar
Map Rhwydwaith Teithio Llesol
Yn 2021, fe wnaethon ni gynnal ymgynghoriad i ddiweddaru ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol. Mae’r map yma'n cynnwys manylion y llwybrau teithio llesol newydd a’r gwelliannau arfaethedig y bydd y Cyngor yn ceisio eu cyflawni dros y 15 mlynedd nesaf. Mae’r map wedi’i lunio gan ddefnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn ogystal â gwaith archwilio sawl dogfen statudol megis Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor.
Mae’r fersiwn terfynol o Fap Rhwydwaith Teithio Llesol y Cyngor wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac mae modd i’r cyhoedd ei weld drwy glicio ar y ddolen isod. Mae'r Map yma'n disodli’r Map Rhwydwaith Integredig blaenorol oedd yn cwmpasu sawl cymuned yn Rhondda Cynon Taf. Mae modd lawrlwytho manylion y cynlluniau teithio llesol y mae'r Cyngor yn bwriadu eu cyflawni yn ystod y 15 blynedd nesaf, y meini prawf a ddefnyddwyd i flaenoriaethu'r cynlluniau yma a chanlyniad yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2021 isod.
Blaenoriaethu Cynlluniau yn y Map Rhwydwaith Teithio Llesol
Meini Prawf Tystiolaeth – Blaenoriaethu Cynlluniau Teithio Llesol
Ymatebion i'r Ymgynghoriad Teithio Llesol
Llwybrau Teithio Llesol yn Rhondda Cynon Taf
Map Teithio Llesol
Cliciwch yma i weld ein map Teithio Llesol, sy'n tynnu sylw at y llwybrau canlynol ac yn cynnwys fideos ar gyfer pob adran.
- Taith Taf
- Abercynon i Drallwn - [fideo]
- Trallwn (llwybr y de) - [fideo]
- Trallwn (llwybr y gogledd) - [fideo]
- Pontypridd (Parc Coffa Ynysangharad) - [fideo]
- Pontypridd (llwybr y ffordd) - [fideo]
- Pontypridd i Nantgarw - [fideo]
- Nantgarw i Ffynnon Taf - [fideo]
- Taith Cynon
- Penderyn i Hirwaun - [fideo]
- Hirwaun (llwybr gogledd) - [fideo]
- Hirwaun i Drecynon - [fideo]
- Trecynon i Aberdâr - [fideo]
- Aberdâr i Aberpennar - [fideo]
- Aberpennar i Abercynon - [fideo]
- Llwybr 4
- Pontypridd i Don-teg - [fideo]
- Rhan Trefforest (lwybr gogledd) - [fideo]
- Llwybr i'r Gymuned Pentre'r Eglwys - [fideo]
- Llwybr i'r Gymuned, Llantrisant - [fideo]
- Tonysguboriau i Bontyclun - [fideo]
- Tonysguboriau i’r Ysbyty - [fideo]
- Tonysguboriau i Thomastown - [fideo]
- Llwybr 47
- Cilfynydd i Ynys-y-bwl - [fideo]
- Llwybr 881
- Stanleytown i Barc Wattstown - [fideo]
- Parc Wattstown i'r Porth - [fideo]
- Porth (llwybr gogledd) - [fideo]
- Porth i Drehafod - [fideo]
- Trehafod i Barc Gwledig Barry Sidings - [fideo]
- Parc Gwledig Barry Sidings i Bontypridd - [fideo]
Y Rhwydawaith Beicio Cenedlaethol Sustrans
Mae Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans yn rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio ar draws y DU. Mae chwe llwybr yn cysylltu cymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf, sy'n darparu cyfleoedd i drigolion gadw'n heini a chymudo.
Cliciwch yma am fap symlach sy'n dangos y llwybrau sy'n rhedeg trwy RCT a rhai o'r cymunedau agos. Hefyd wedi'u nodi ar y map mae'r gorsafoedd trên sydd ar hyd y llwybr - a all fod o ddefnydd wrth gymudo i'r gwaith, sy'n eich galluogi i feicio neu gerdded rhan o'ch taith.
I gael cefnogaeth bellach gwyliwch ein fideos o lwyrbau a'n mapiau sy'n darparu cyfarwyddiadau ac awgrymiadau defnyddiol i chi.
Ar gyfer map llawn y DU ewch i: https://www.sustrans.org.uk/national-cycle-network/
Yn ogystal â'r llwybrau beicio yma, mae nifer o leoliadau ledled Rhondda Cynon Taf lle cewch chi barcio'ch beic yn ddiogel wrth i chi barhau â'ch diwrnod. Gweler yma.
Diogelwch Beiciau
Ydych chi am sicrhau eich bod yn beicio yn ddiogel? Dilynwch yr argymhellion canlynol:
- Bod yn weladwy i ddefnyddwyr eraill y ffordd ac i gerddwyr. Cadw'n glir o ymyl y y pafin; gwisgo dillad lliw golau neu fflworoleuol yng ngolau dydd neu pan fydd y golau'n wael, a dillad adlewyrchol gyda'r nos.
- Defnyddio goleuadau bo amser ar ôl iddi dywyllu, yn y glaw, neu os yw'r tywydd yn gymylog.
- Peidio â marchogaeth yn y gwter. Rhoi digon o le i chi'ch hun ar y chwith. Peidio â theimlo fod rhaid i chi gadw'n dynn wrth ymyl y cwrbyn os oes rhywun mewn car tu ôl i chi yn dechrau colli amynedd.
- Amddiffyn eich hun. Gwisgo helmed bob amser. Bydd hyn lleihau risg anaf pen os byddwch mewn damwain neu wrthdrawiad.
- Dangos eich bwriad i yrwyr mewn da bryd. Edrych yn wastad cyn cychwyn neu stopio, a sicrhau eich bod yn edrych. Rhoi arwydd cyn i chi gychwyn, stopio, neu droi. Gwneud cyswllt llygaid â gyrwyr, a gadael iddynt wybod i chi'u gweld.
- Marchogaeth mewn ffordd bendant. Peidio â gweu rhwng lonydd, neu newid cyfeiriad yn sydyn heb edrych a rhoi arwydd.
- Defnyddio cyfleusterau beicio lle bynnag y bo modd; mae'r rhain yn cynnwys lonydd a llwybrau beicio, llinellau stopio blaen i feiciau ger goleuadau traffig.
Os yw llwybr beicio oddi ar y ffordd ac yn cael ei rannu â cherddwyr:
- Cadw i ochr y beicwyr i'r ffordd, a fydd ag arwyddbyst neu arwyddion i'w nodi.
- Gwylio am bobl a allai gael anhawster i symud o'ch ffordd. Enghreifftiau o'r rhain fyddai pobl hŷn, plant, a phobl ag anableddau.
- Defnyddio eich cloch er mwyn gadael i bobl wybod eich bod chi yno.
- Bod yn barod i arafu neu i stopio os bydd raid.
Beicwyr a'r Gyfraith - cofiwch fod y Gyfraith yn gwahardd beicwyr rhag gwneud y canlynol:
- Neidio goleuadau coch, gan gynnwys goleuadau coch ger croesfannau i gerddwyr
- Beicio ar balmentydd, oni bai fod arwydd yn dangos fod y palmant wedi cael ei droi'n drac seiclo neu'n arwyneb cyd-ddefnyddio.
- Beicio ar draws croesfannau i gerddwyr oni bai'u bod yn groesfannau twcan
- Beicio gyda'r nos heb olau gwyn ar du blaen y beic, golau coch ar y cefn, ac adlewyrchydd coch ar y cefn.
Ydych chi'n teimlo nad oes gennych ddigon o hyder i ddilyn yr argymhellion uchod? Beth am gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddiant beicio leol yn eich ardal? Mae hyfforddiant beicio yn ffordd wych i feithrin hyder ar feic mewn amgylchedd a reolir. A ydych chi'n dysgu beicio am y tro cyntaf? Neu a ydych chi'n datblygu eich cydbwysedd a rheolaeth, neu'n gwella eich sgiliau ar y ffordd? Bydd cynllun hyfforddi i weddu i'ch anghenion chi.
Hoffech chi ragor o wybodaeth? Croeso i chi ddefnyddio'r cysylltau isod.