Beth fydd yn digwydd os yw fy mhlentyn yn camymddwyn ar drafnidiaeth ysgol?
O bryd i’w gilydd mae’n angenrheidiol i’r Cyngor, ar y cyd â’r ysgol, gosbi disgyblion sy’n ymddwyn mewn modd annerbyniol ar drafnidiaeth ysgol.
Mae’r goblygiadau ynglŷn â disgybl sy’n camymddwyn yn amrywio’n fawr, gan gynnwys creu oedi i ddisgyblion eraill oherwydd ei bod hi’n bosibl y bydd rhaid tynnu’r cerbyd oddi ar yr heol o ganlyniad i’r difrod a achoswyd iddo.
Pa gamau a gymerir yn erbyn fy mhlentyn os yw’n camymddwyn ar drafnidiaeth ysgol?
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno 'Côd Ymddygiad wrth Deithio'. Mae’r Côd yn hybu gwell diogelwch wrth deithio ac yn nodi’r safonau a ddisgwylir gan ddisgyblion wrth deithio i ysgol neu goleg. Os yw disgyblion yn camymddwyn wrth deithio ar drafnidiaeth ysgol, ac yn methu â dilyn y Côd Ymddygiad wrth Deithio, mae’n bosibl y bydd camau yn cael eu cymryd yn eu herbyn. Yn dilyn ymchwiliad, mae’n bosibl na fydd hawl gyda’r disgyblion i deithio am gyfnod penodol, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y digwyddiad.
Beth fydd yn digwydd os bydd rhaid i’m plentyn gael ei wahardd rhag defnyddio trafnidiaeth ysgol?
Os yw’n angenrheidiol i wahardd disgybl rhag defnyddio trafnidiaeth ysgol, bydd rhieni fel arfer yn cael gwybod mewn ysgrifen. Byddwn yn nodi hyd y cyfnod y bydd y disgybl yn cael ei wahardd a’r rheswm dros ei wahardd. Bydd angen i rieni wneud trefniadau teithio eraill yn ystod y cyfnod yma i sicrhau bod disgyblion yn parhau i fynychu’r ysgol, oni bai bod y disgybl wedi derbyn llythyr gwaharddiad o’r ysgol.
Os yw’r digwyddiad yn ddigon difrifol fel bod diogelwch y cerbyd a disgyblion eraill mewn perygl, gall y plentyn gael ei wahardd o drafnidiaeth ysgol yn syth.
Beth os oes difrod i’r bws?
Yn dilyn unrhyw ddigwyddiad sy’n arwain at ddifrod i’r cerbyd, mae’n bosibl y bydd y gweithredwr yn ceisio adfer cost unrhyw waith atgyweirio. Mewn rhai achosion, gall gyfeirio’r achos at yr heddlu.
Cod Ymddygiad Wrth Deithio Cymru Gyfan
Mae Cod Ymddygiad Wrth Deithio Cymru Gyfan yn god statudol sydd wedi'i lunio gan Lywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo dulliau teithio diogel i ddisgyblion rhwng 5 a 19 oed ac amlinellu'r ffordd y mae disgwyl iddyn nhw ymddwyn ar bob math o drafnidiaeth wrth deithio i leoliadau addysg neu oddi yno. Dylid dilyn y cod wrth deithio ar fysiau cyhoeddus, ar drenau, mewn ceir, neu wrth gerdded a beicio. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i ddisgyblion ymddwyn yn barchus a dilyn rheolau diogelwch.
Mae modd bwrw golwg ar God Ymddygiad Wrth Deithio Cymru Gyfan yma: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/canllawiau-statudol-ynghylch-y-cod-ymddygiad-wrth-deithio-ar-gyfer-cymru-gyfan.pdf