Skip to main content

Llwybrau bysiau Ysgol/Coleg

Tocyn teithio ar y bysiau

Rhaid i ddisgyblion Ysgol Uwchradd a Cholegau fod â'u tocyn teithio ar y bysiau yn eu meddiant ar bob adeg. Os nad yw disgyblion yn dangos eu tocyn i'r gyrwyr, fyddan nhw ddim yn cael teithio ar y bws i'r ysgol/coleg. Dim Tocyn, Dim Teithio.

Dylai disgyblion a rhieni/gwarcheidwaid gyrraedd y safle bysiau o leiaf 10 munud cyn yr amser sydd wedi'i nodi ar amserlen y bysiau, gan fod yr amseroedd ddim yn bendant oherwydd llif y traffig ac ati.

Rhaid i riant/gwarcheidwad cyfrifol disgyblion oedran ysgol gynradd fod wrth y safle bws o leiaf 10 munud cyn yr amser sydd wedi'i nodi yn yr amserlen i'w casglu. Hefyd, rhaid i rieni/gwarcheidwaid roi gwybod i'r cynorthwyydd teithio ar y bws os bydd rhywun arall yn casglu eu plentyn o'r bws yn y prynhawn.

Mae rhai ysgolion wedi newid eu hamser gorffen am y tro. Dydy amserlenni ddim wedi'u diwygio i adlewyrchu'r trefniadau dros dro yma. Dylech chi wirio gydag ysgol eich plentyn a yw'r trefniadau wedi newid.

Llwybrau bysiau Ysgol/Coleg