Os ydych chi'n dechrau neu'n parhau ag addysg chweched dosbarth, efallai y byddwch chi'n gymwys i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim. Mae'r dudalen yma'n egluro pwy sy'n gymwys, pryd mae angen i chi wneud cais, a pha wybodaeth y bydd angen i chi ei darparu. Darllenwch y canllawiau'n ofalus cyn gwneud cais.
Dychwelyd i'ch ysgol bresennol ar ôl Blwyddyn 11
Os ydych chi eisoes yn derbyn cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim ac yn aros yn yr un ysgol ar gyfer y chweched dosbarth (Blwyddyn 12), does dim angen i chi wneud dim.
Bydd eich trefniadau cludiant presennol yn parhau pan fyddwch chi'n dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi. Cadwch eich tocyn bws os gwelwch yn dda.
Mynychu chweched dosbarth eich dalgylch
Os ydych chi'n symud i ysgol wahanol oherwydd nad yw'ch ysgol bresennol yn cynnig addysg ôl-16, bydd eich ysgol dalgylch chweched dosbarth newydd yn dweud wrth yr Uned Trafnidiaeth Integredig eich bod chi wedi cofrestru yn yr ysgol honno.
Bydd angen i ddisgyblion newydd y chweched dosbarth yn yr ysgolion canlynol gwblhau cais ar-lein hefyd.
- Ysgol Gymunedol Aberdâr
- Ysgol Gyfun Bryncelynnog
- Ysgol Gyfun Treorci
Os ydych chi'n mynychu Ysgol Gymuned Tonyrefail, nid oes angen i chi lenwi ffurflen gais, gan fod yr wybodaeth a gaiff ei chasglu fel arfer drwy'r broses ymgeisio eisoes wedi'i darparu gan yr ysgol.
Os ydych chi'n mynychu chweched dosbarth gwahanol nad yw wedi'i rhestru uchod, e-bostiwch CludoDisgyblion@rctcbc.gov.uk gyda’r manylion canlynol:
- enw llawn y disgybl
- dyddiad geni
- cyfeiriad cartref
- enw'r ysgol
- manylion y cwrs
Byddwn ni'n asesu eich hawl i gludiant yn unol â'r polisi.
Dychwelyd i Flwyddyn 13 ac yn derbyn cludiant cyhoeddus am ddim ar hyn o bryd
Os ydych chi'n dychwelyd i Flwyddyn 13 ac yn derbyn cludiant cyhoeddus am ddim ar hyn o bryd, rhaid i chi lenwi ffurflen gais newydd i gadarnhau eich bod chi'n dychwelyd i'r ysgol.
Serch hynny, os ydych chi'n derbyn cludiant am ddim ar hyn o bryd ac yn teithio gan ddefnyddio gwasanaeth cludiant dan gontract (pas bws ysgol), does dim angen i chi lenwi ffurflen gais, gan y bydd eich trefniadau cludiant yn parhau'n awtomatig.
Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant
Bydd cludiant am ddim ar gael i ddisgyblion sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf sy'n mynychu Ysgol Gyfun Gatholig Cardinal Newman ac sy'n symud ymlaen i'r Chweched Dosbarth yng Ngholeg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant.
Rhaid i chi:
- cofrestru yng Ngholeg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant
- cwblhau ffurflen gais cludiant y chweched dosbarth
Rhaid i ddisgyblion sy'n mynychu chweched dosbarth mewn ysgol ffydd fod â hanes parhaus o fynychu ysgol wirfoddol gymorthedig (ffydd) o'r un enwad crefyddol er mwyn i gludiant gael ei ystyried.
Nodwch, does dim gofyn statudol i awdurdodau lleol ddarparu cludiant i ysgolion gwirfoddol cymorthedig (ffydd).
Sylwch:
- Fel arfer, caiff ceisiadau eu hasesu cyn pen 21 diwrnod.
- Dim ond i'r cyfeiriad e-bost a gaiff ei ddarparu ar y cais y bydd y diweddariadau'n cael eu hanfon.
- Gwiriwch eich ffolder sbam neu sothach os na chewch chi ymateb.
- Bydd ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn cael eu prosesu cyn mis Awst.
Noder – Peidiwch â chyflwyno cais arall os ydych chi eisoes wedi gwneud cais ar-lein, oni bai bod eich cyfeiriad neu'ch cwrs wedi newid.