Mae Rhondda Cynon Taf nawr yn rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd sy'n dod â deg Cyngor o ledled De-ddwyrain Cymru at ei gilydd.
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi rhoi pwerau statudol i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan alluogi dull mwy integredig o lunio polisïau trafnidiaeth a chyflawni cynlluniau.
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi datblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer 2026-2031 a fydd yn helpu i fynd i’r afael â materion trafnidiaeth lleol a rhanbarthol yn Ne-ddwyrain Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, trwy ddarparu'r fframwaith ar gyfer penderfyniadau ynghylch buddsoddi yn y dyfodol. Mae'r ddogfen yma’n disodli Cynllun Trafnidiaeth Lleol presennol Cymoedd De-ddwyrain Cymru.
Mae modd gweld Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a dogfennau ategol yma:
Trafnidiaeth Ranbarthol - Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Garfan Strategaeth Trafnidiaeth.
Carfan Strategaeth Trafnidiaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
2 Llys Cadwyn
Pontypridd
CF37 4TH