Mae rhaid i'r Cyngor asesu cynigion ar gyfer datblygiadau. Mae hyn yn cynnwys gwaith ffisegol (fel adeiladau newydd neu estyniadau) a newid defnydd (o ran defnydd tir ac adeiladau).
Mae rhaid i'r Cyngor asesu cynigion ar gyfer datblygiadau. Mae hyn yn cynnwys gwaith ffisegol (fel adeiladau newydd neu estyniadau) a newid defnydd (o ran defnydd tir ac adeiladau).
Mae hyn yn cynnwys llawer o fathau o geisiadau, er enghraifft:
- Caniatâd cynllunio
- Caniatâd i arddangos hysbyseb
- Caniatâd adeilad rhestredig
- Caniatâd ardal gadwraeth
Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu, gwaith peirianneg a defnydd tir. Pwrpas materion Rheoli Datblygu yw sicrhau bod gwaith datblygu yn cael ei gyflawni yn unol â chanllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol. Bydd yr Adran yn ceisio cymryd camau gorfodi pan fydd gwaith datblygu heb ganiatâd yn debygol o niweidio cymeriad ardal neu amwynderau'r trigolion lleol.
Diben y system gynllunio yw diogelu'r amwynderau a'r amgylchedd er budd y cyhoedd. Dydy'r system ddim yn ceisio diogelu buddiannau unigolion ar draul buddiannau pobl eraill.
Dylunio trefol
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod datblygiadau newydd yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd sydd ar gael, ac yn diogelu ac yn gwella'r amgylchedd sydd yno'n barod. Mae dylunio da yn rhan ganolog o'r gwaith o greu lleoedd cynaliadwy o ansawdd uchel y gall trigolion presennol Rhondda Cynon Taf, a thrigolion y dyfodol, fod yn falch ohonyn nhw.
Cyhoeddi rhestr wythnosol
Mae'r Adran yn cyhoeddi rhestr wythnosol o geisiadau cynllunio newydd. Mae'r rhestr ar gael i'w harchwilio yn Nhŷ Sardis, yn y rhan fwyaf o'r Llyfrgelloedd ac ar y wefan yma. Gweld y rhestrau wythnosol diweddaraf yma.
Rhagor o wybodaeth
Defnyddiwch wefan y Porth Cynllunio i gael gwybod rhagor am y system gynllunio, i wneud cais am ganiatâd cynllunio, i gael gwybod am ddatblygiadau yn eich ardal chi, i apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio ac i ymchwilio i bolisi diweddaraf y llywodraeth.
Mae cymorth cynllunio Cymru yn elusen annibynnol sy'n rhoi cyngor a chymorth ar bob agwedd ar gynllunio defnydd tir yng Nghymru.
Ewch i www.planningaidwales.org.uk neu ffoniwch y gwasanaeth llinell gymorth cynllunio ar 02920 625 000 am fwy o wybodaeth.
Ewch i www.securedbydesign.com i gael y Canllaw Cartrefi Newydd 2019
Mae Diogelu Drwy Ddylunio (SBD) yn fenter ddiogelwch swyddogol yr heddlu sy’n gweithio i wella diogelwch adeiladau a’r hyn sydd o’u cwmpas er mwyn darparu mannau diogel i fyw, gweithio, siopa ac ymweld â nhw.
Cysylltu â ni
Gwasanaeth Cynllunio
Llawr 2,
2 Llys Cadwyn,
Pontypridd,
CF37 4TH
Ffôn: 01443 281130 / 01443 281134