Mae llawer o rywogaethau o blanhigion i'w gweld ledled y Fwrdeistref Sirol.
Mae ein tirwedd, ei hinsawdd a'i threftadaeth yn darparu amrywiaeth helaeth o gynefinoedd lle mae modd i flodau gwyllt ffynnu. Os ydych chi'n cerdded drwy ein gweundir, ein hiseldir glaswelltog neu hyd yn oed drwy ein coedwigoedd, byddwch chi'n dod o hyd i lawer iawn o bethau. Isod, ceir enghreifftiau o rai o'r rhywogaethau planhigion mwyaf cyffredin y mae modd eu gweld:
- Tamaid y Cythraul (Succisa pratensis)
- Llaeth y Gaseg (Cardamine pratensis)
- Tegeirian Brith y Rhos (Dactylorhiza maculata)
- Llygad-llo Mawr (Leucanthemum vulgare)
- Pengaled Du (Centaurea nigra)
- Troed yr Iâr (Lotus corniculatus)
- Meillionen Goch (Trifolium pratense)
- Carpiog y Gors (Lychnis flos-cuculi)
- Tresgyl y Moch (Potentilla erecta)
- Briwydden Wen (Galium saxatile)
Nid blodau yn unig sydd ar gael i'w hedmygu yma. Mae yna ystod eang o blanhigion eraill fel rhedyn, cen a mwsoglau, yn ogystal â choed a ffyngau. Maen nhw ar ein stepen drws ac yn barod i ni'u darganfod nhw.
Felly beth am fynd yn wyllt a rhoi gwybod i ni beth rydych chi'n dod ar ei draws yma.