Mynediad i'r Cefn Gwlad a Fforwm Mynediad Lleol
Mae digonedd o gefn gwlad i’w fwynhau yn Rhondda Cynon Taf – mae tua 80% o’r fwrdeistref yn ardal wledig.
Mae modd i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd fwynhau'r golygfeydd anhygoel ac amrywiol - o’r tirweddau garw a dramatig yn sgil cloddio yng Nghwm Rhondda i fryniau gleision Taf-elái a rhostiroedd Cwm Cynon.
Fforwm Mynediad Lleol
Mae'r Cyngor wedi ailsefydlu Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl) statudol. Mae hyn yn ofynnol yn unol â Rhan 1 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Daeth chweched tymor y Fforwm statudol i ben ym mis Mawrth 2026.
Swyddogaeth y Fforwm yw cynghori'r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill wrth iddyn nhw wneud gwelliannau i fynediad cyhoeddus mewn perthynas â gweithgareddau hamdden awyr agored a theithio cynaliadwy yn y Fwrdeistref Sirol. Yn ôl y gyfraith, rhaid i'r cyrff yma ystyried cyngor perthnasol gan y Fforwm.
Mae aelodau'r Fforwm yn cael eu penodi yn unigolion yn hytrach nag yn gynrychiolwyr o unrhyw sefydliad neu grŵp o ddefnyddwyr. Wrth benodi aelodau'r Fforwm, rhaid i'r Cyngor sicrhau ei fod yn cynnwys pobl sy'n defnyddio tir mynediad lleol a pherchnogion hawliau tramwy lleol, meddianwyr tir mynediad a thir â hawliau tramwy.
Mae rheoliadau yn nodi bod rhaid i'r Fforwm gyfarfod o leiaf dwywaith y flwyddyn. Ond, rydyn ni'n rhagweld y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn fwy aml, pan fo'n gyfleus i aelodau'r Fforwm, mewn lleoliad sy'n gyfleus.
Meysydd gwaith
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd yn ceisio penodi aelodau newydd i’w Fforwm Mynediad Lleol.
O ganlyniad i gyfnod recriwtio estynedig, mae swyddi dal ar gael ac mae croeso i geisiadau gan unigolion sydd â diddordeb mewn mynediad i’r cefn gwlad, gan gynnwys defnyddwyr hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad, yn ogystal â pherchenogion neu feddiannwyr tir.
I gael rhagor o fanylion a/neu i dderbyn ffurflen gais, cysylltwch â’n Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
Adroddiadau Blynyddol
Cyflwyno cais i ymuno
Hoffech chi gael rhagor o fanylion a/neu ffurflen gais? Mae croeso i chi e-bostio ein Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus:
E-Bost: FfMLl@rctcbc.gov.uk
Drwy'r post: 2 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH