Skip to main content

Tir Mynediad Agored

Mynediad Agored

Yn sgil Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 mae hawliau newydd i bobl sy’n mynd ar droed i dir agored neu dir comin, ac mae’r ddeddf hefyd yn gwella’r cyfreithiau hawl tramwy cyhoeddus. Mae pobl yn cael mynd i ardaloedd gwledig sydd ar fapiau fel tir agored, sef tir megis mynydd, rhostir, tir comin a thir sy’n cael ei alw’n dir mynediad gan y perchennog.

Mae’r tir mynediad agored newydd yn golygu bod rhagor o gefn gwlad ar gael ar gyfer cerdded, rhedeg, dringo, gwylio adar a chael picnic. Mae rhai cyfyngiadau ar dir mynediad, er enghraifft, does dim hawl defnyddio beiciau arferol neu gerbydau modur, neu farchogaeth ar y tir mynediad newydd heb ganiatâd perchennog neu reolwr y tir.

Mae'r ddeddf hefyd yn gyfle i berchnogion tir roi rhannau o dir i ddod yn dir mynediad. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi'r holl goedwigoedd maen nhw'n berchen arnyn nhw, heblaw am y rhai sydd ar dir sy'n rhan o brydles.

Agorodd y tir mynediad ym mis Mai 2005. I weld lle mae’r tir mynediad agored, e-bostiwch: CefnGwlad@rctcbc.gov.uk neu fynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r holl dir mynediad agored a’r coedwigoedd agored i’w gweld ar Fapiau Arolwg Ordnans 1:25 000, cyfres ‘Explorer’.

Arwyddion Mynediad

Mae arwyddion mynediad yn nodi ble mae:

Access Signs
tir mynediad yn dechrau... 
AccessSymbol ac yn gorffen...  Negaccesssymbol