Cyflwyno cais am gau llwybr dros dro
Mae modd cau Hawl Tramwy Cyhoeddus dros dro neu ei arallgyfeirio er mwyn cynnal gwaith yn ddiogel ar lwybr neu'n gyfagos, neu yn dilyn difrod i wyneb llwybr trwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro (TTRO). Mae modd i'r gorchmynion yn bara rhwng un dydd a chwe mis. Os na fydd y gwaith wedi'i gwblhau o fewn chwe mis, mae modd cyflwyno cais am estyniad ar gyfer y TTRO. Fodd bynnag, bydd rhaid cael caniatád gan Lywodraeth Cymru.
Er mwyn gwneud cais i'r Cyngor i gau llwybr dros dro, cysylltwch â'r garfan Hawliau Tramwy Cyhoeddus trwy e-bostio CefnGwlad@rctcbc.gov.uk.
Rhaid gwneud cais o leiaf 6 wythnos cyn dyddiad cyntaf y cau dros dro.
Ffurflen Gais - Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro