O ran cymeradwyo gweithrediadau parhaus y chwarel, roedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn fodlon bod modd rheoli'r gwaith ffrwydro er mwyn iddo gydymffurfio â'r cyfyngiadau sydd wedi'u nodi yn y polisi cynllunio cenedlaethol cyfredol, Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (MTAN) 1: Agregau. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy gyflwyno amodau cynllunio sy'n nodi terfynau mwyaf derbyniol o ran sain a dirgrynu. Dyma'r amodau:
Dim ond rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener y bydd ffrwydradau yn cael eu cynnal yn y chwarel. Ni fyddan nhw'n cael eu cynnal o gwbl ar ddydd Sadwrn, dydd Sul na Gwyliau'r Banc, (ac eithrio argyfyngau).
Bydd pob ffrwydrad unigol yn cael ei fonitro yn unol â'r cynllun monitro ffrwydradau wedi'i gytuno arno a bydd yr holl fonitro'n cael ei wneud yn unol â thelerau'r cynllun.
Ni ddylid cynnal ail ffrwydradau ar y safle.
Dylid cynllunio a rheoli'r holl ffrwydradau unigol, gan weithredu i leihau graddau'r gorbwysedd aer o ganlyniad i'r ffrwydrad. Os bydd gorbwysedd aer yn fwy na 120db, mewn unrhyw eiddo preswyl sensitif gerllaw, dylid rhoi gwybod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol o fewn 7 diwrnod ac adolygu camau rheoli a dylunio gweithrediad y ffrwydradau cyn i unrhyw ffrwydro pellach ddigwydd. Dylai ffrwydradau yn y dyfodol gael eu cynnal yn unol â chanfyddiadau'r adolygiad
Yn ychwanegol:
- Dylid hysbysebu amseroedd y ffrwydradau yn amlwg yn y chwarel
- Bydd rhybudd sy'n glywadwy ar ffin y safle yn cael ei seinio cyn ac ar ôl cynnal ffrwydrad
- Bydd amseroedd ffrwydro yn cael eu hysbysebu'n glir ar wefan y gweithredwr o leiaf 24 awr cyn cynnal ffrwydrad
- Cyn i ffrwydrad gael ei gynnal, bydd yn cael ei hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol o leiaf 24 awr ymlaen llaw.
Cwynion parthed gwaith tanio gan gwmni Heidelberg.
Bob tro mae ffrwydrad yn y chwarel, mae'r Cyngor yn derbyn nifer o gwynion gan drigolion lleol. Er bod hyn yn ddealladwy ac i'w ddisgwyl, mae'n werth tynnu sylw at y ffiniau y mae'n rhaid i ffrwydro ddigwydd oddi mewn iddyn nhw.
Mae’r rhain wedi’u nodi yn yr Hysbysiad o Benderfyniad (penderfyniad yr apêl) ac, yn benodol, mae Amodau 22 a 26 yn cyfeirio. Mae'r rhain yn datgan:
22. Blasting shall be undertaken in such a manner to ensure that ground vibration at any vibration sensitive building, measured as a maximum of three mutually perpendicular directions taken at the ground surface, does not exceed a peak particle velocity (ppv) of 6mms per second in 95% of all blasts measured over any continuous 6-month period, and no single blast shall exceed a ppv of 10mms per second. The measurement is to be taken at or near the foundations of any vibration sensitive building in the vicinity of the quarry existing at the date of this permission.
Reason: To limit ground vibration from blasting operations so as to protect the amenities of local residents and the structure of buildings in accordance with Policies CS10 and AW10 of the Rhondda Cynon Taf Local Development Plan.
26. All individual blasts shall be designed, managed and implemented to minimise the extent of air overpressure resulting from blasts. If air overpressure exceeds 120dB at any nearby sensitive residential property (not owned by the applicant) the Local Planning Authority shall be informed within 7 days and the design, management and implementation of all blasts must be reviewed prior to any further blasting being undertaken at the site, with all future blasting being undertaken in accordance with the findings of the review.
Reason: To limit air overpressure from blasting operations so as to protect the amenities of local residents and the structure of buildings in accordance with Policies CS10 and AW10 of the Rhondda Cynon Taf Local Development Plan.
Felly, y mesuriadau allweddol yw 6mms yr eiliad (ar gyfer 95% o'r holl danio/ffrwydradau) ar gyfer PPV a 120dB ar gyfer gorbwysedd aer (AOP).
Ers mis Hydref 2024, mae ffrwydradau yng Nghraig yr Hesg wedi cael eu monitro’n annibynnol ar ran RhCT gan Dîm Mwynau Cyngor Sir Gaerfyrddin. Cyhoeddir manylion y ffrwydradau (gan gynnwys y data uchod), ynghyd â'r gwiriadau annibynnol, ar dudalen we arbennig y Cyngor ar gyfer Craig yr Hesg. Darperir manylion y ffrwydrad a'r dilysu diweddaraf fel arfer ychydig ddyddiau wedi'r digwyddiad. Os oes unrhyw feysydd o ddiddordeb neu bryder yn deillio o ffrwydrad, gwneir sylw at hynny fel arfer ar ddiwedd y canlyniadau.
Er bod y Cyngor yn hapus i dderbyn cwynion mewn perthynas ag unrhyw ffrwydrad, dyw hi ddim yn bosibl ymateb yn unigol i bob cwyn. Ystyried yr angen i gymryd Camau Gorfodi, rhaid i'r paramedrau a nodir gan y ddau amod a restrir uchod gael eu torri. Rhoddir rhif cyfeirnod cwyn i bob digwyddiad ffrwydro.
Craig Yr Hesg Blasting Database (redacted)
Sylwch fod y daflen ddata ffrwydro isod wedi'i darparu gan Heidelberg Materials a bydd yn cael ei lanlwytho cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddi gael ei derbyn, ei golygu a'i chyfieithu.