Skip to main content

Canllawiau Cynllunio Atodol (Drafft)

TAI AMLFEDDIANNAETH
Ymgynghoriad cyhoeddus 25ain o Ionawr 2018 tan 23ain o Fawrth 2018

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol (Drafft) ar faterion Tai Amlfeddiannaeth (‘HMOs’), a dyma gyfle i chi fynegi eich barn ar y ddogfen.

Mae'r Cyngor yn paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol er mwyn darparu rhagor o ganllawiau a manylion angenrheidiol am gynigion a pholisïau penodol yn rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol. Dylai'r canllawiau hyn, felly, roi mwy o sicrwydd i ymgeiswyr, a'u helpu nhw i baratoi ceisiadau cynllunio addas i'w cyflwyno i'r Cyngor. Dydy Canllawiau Cynllunio Atodol ddim yn meddu ar yr un statws â pholisïau sy'n rhan o'r cynllun datblygu, ond, maen nhw'n ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

Mae newidiadau diweddar yn y ddeddfwriaeth wedi pennu bod angen caniatâd cynllunio erbyn hyn i newid defnydd tai ag un aelwyd yn dai amlfeddiannaeth. Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol (Drafft) yn egluro'r materion sydd wedi arwain at yr angen am ganllawiau atodol o'r fath yn Rhondda Cynon Taf, a'u cysylltiadau â'r Canllawiau Cynllunio Atodol presennol a'r polisïau eraill yn rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae'r Canllawiau hefyd yn cynnig polisi mwy penodol o ran caniatáu ceisiadau cynllunio addas am dai amlfeddiannaeth.

Dogfennau sydd ar gael:

Mae'r dogfennau a'r ffurflenni hyn ar gael mewn llyfrgelloedd lleol ac yn ein Canolfannau iBobUn.

(Nodyn: Dydy'r dogfennau crynodeb annhechnegol ddim yn destun ymgynghoriad)

Bydd y cyfnod ymgynghori ynglŷn â'r Canllawiau Cynllunio Atodol (Drafft) ar faterion Tai Amlfeddiannaeth yn para wyth wythnos, gan ddechrau ar 25ain o Ionawr 2018 ac yn dod i ben ar 23ain o Fawrth 2018.

Os hoffech chi wneud sylwadau, gwnewch hynny erbyn 5:00pm ar 23ain o Fawrth 2018 drwy un o'r dulliau isod:

  • Ar-lein yn
  • Llenwi'r ffurflen, a'i hanfon hi drwy e-bost i: LDP@rctcbc.gov.uk
  • Llenwi'r ffurflen, a'i hanfon hi drwy'r post i: Carfan Polisi Cynllunio, Llawr 2, Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd CF37 1DU

Bydd sylwadau ar y Canllawiau Cynllunio Atodol (Drafft) yn cael eu hystyried wrth baratoi'r dogfennau terfynol.

I gael rhagor o wybodaeth am y Canllawiau Cynllunio Atodol (Drafft) ar faterion Tai Amlfeddiannaeth, neu i ofyn cwestiwn ynglŷn â'r ddogfen neu'r broses ymgynghori, cysylltwch â'r Garfan Polisi Cynllunio: Ffôn: 01443 494771 neu 01443 494775 E-bost: LDP@rctcbc.gov.uk