Skip to main content

Dylunio Trefol Gwybodaeth a chyngor

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymroi i wneud yn siŵr bod adeiladau newydd yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd sydd ar gael, ac yn diogelu ac yn gwella’r amgylchedd sydd yno’n barod.

Mae dylunio da’n rhan ganolog o’r gwaith o greu lleoedd cynaliadwy o ansawdd uchel y gall trigolion presennol Rhondda Cynon Taf, a thrigolion y dyfodol, fod yn falch ohonyn nhw.

Mae dylunio da yn ymwneud â mwy nag edrychiad lle, mae hefyd yn ystyried sut mae’r lle’n ‘gweithio’ – er enghraifft y ffyrdd gwahanol y bydd ardal yn cael ei defnyddio a’r ffordd mae pobl yn symud o gwmpas yr ardal. Mae’n ymwneud â mwy na dim ond adeiladau hefyd – mae’r llefydd rhwng adeiladau (sy’n aml yn cael eu galw’n ‘dir y cyhoedd’), fel strydoedd a llefydd gwag, yr un mor bwysig.

Mae’r Cyngor yn bwriadu codi safon y dylunio ar draws y Fwrdeistref drwy:

  • Ddarparu cyngor dylunio ar y cynigion datblygu posibl a hynny cyn y cyfnod cyflwyno cais cynllunio
  • Adolygu’r cynllun a negodi cynigion datblygu
  • Rhoi cyngor dylunio i brosiectau’r Cyngor
  • Paratoi canllawiau dylunio fel rhan o’r Cynllun Datblygu lleol sydd ar y gweill
  • Darparu hyfforddiant ym maes dylunio i Aelodau Etholedig a Swyddogion

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn dweud bod cyfrifoldeb gan bawb sy’n rhan o’r broses ddylunio i godi safon dylunio, ac mae’n nodi bod yn rhaid codi safonau ym mhobman – o leoliad Adeilad Cofrestredig i ystâd newydd o dai.

Does dim rhaid i gynllunio da gostio ceiniog a dime chwaith. Mae nifer o fanteision i’w cael hefyd, gan gynnwys:

  • Adfywio
  • Creu lleoedd newydd y bydd pobl yn falch i fyw a gweithio ynddyn nhw
  • Diogelu’r lleoedd sy’n werthfawr i ni
  • Osgoi peidio â gwneud digon o’n tir – creu rhagor o leoedd cynaliadwy
  • Creu lleoedd mwy deniadol sy’n fuddsoddiad gwell i berchnogion tai a busnesau
  • Gwneud yn siŵr bod lleoedd newydd ddim yn edrych yr un fath i gyd, a pharchu/dehongli nodweddion lleol.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth, darllenwch y dogfennau canlynol:

Nodyn Esboniadol ar Ddatganiadau Dylunio

Mae canllawiau i’w cael yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 12

Strategaethau Adfywio ar gyfer Canol Trefi

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi comisiynu ymgynghorwyr i baratoi strategaethau adfywio ar gyfer canol y trefi canlynol.

  • Strategaeth Adfywio Glynrhedynog, 2006
  • Strategaeth Adfywio Hen Dref Llantrisant, 2005
  • Astudiaeth Adfywio Canol Tref Aberpennar, 2002
  • Strategaeth Adfywio Pontypridd, 2005
  • Strategaeth Adfywio Canol Tref y Porth, 2003
  • Strategaeth Adfywio Canol Tref Tonyrefail, 2006
  • Strategaeth Adfywio Canol Tref Treorci, 2003
  • Strategaeth Adfywiol Canol Tref Aberdâr (drafft)

Mae’r dogfennau hyn yn disgrifio’r materion mae’r ardaloedd yn eu hwynebu, ac yn rhestru ystod o gyfleoedd datblygu posibl a phrosiectau allweddol. Mae’r Cyngor wedi cymeradwyo’r dogfennau ac maen nhw nawr yn bolisi fydd yn llywio’r Cynllun Datblygu Lleol sydd ar y gweill. O’r herwydd dylid ystyried y dogfennau wrth baratoi cynigion datblygu.

Polisi Cynllunio Cymru

Mae Polisi Cynllunio Cymru’n disgrifio’r strategaeth gyffredinol ar gyfer Datblygu yng Nghymru. Wrth wraidd hyn mae’r syniadau o ddatblygu cynaliadwy ac ansawdd bywyd, a gellir gwireddu’r syniadau hynny drwy ddylunio da. Mae Datganiad Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog (MIPPS) 01/2008 ar Ddylunio Da yn darparu isadran 2.9 ddiwygiedig – ‘Hybu cynaliadwyedd trwy ddylunio da.’

Mae Cynllun Gofodol Cymru yn fframwaith datblygu ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf ac mae’n seiliedig ar ‘Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy’. Mae pwyslais yn cael ei roi ar barchu pa mor unigryw yw ardaloedd lleol ac ar ddylunio da.

Canllaw Dylunio ar gyfer Cymru: Datblygu Preswyl

Ysgrifennwyd y canllaw dylunio hwn ar gyfer Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru i gyd-fynd â TAN 12 sy’n trafod datblygiadau preswyl o bob maint.

Canllaw Dylunio ar gyfer Cymru: Datblygu i Ddeiliaid Tai

Ysgrifennwyd y canllaw dylunio hwn ar gyfer Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru i helpu deiliaid tai ddylunio estyniadau, addasiadau i’r atig neu garej etc yn dda. Mae pwyslais yn cael ei roi ar ddeall yr ardal a thrafod syniadau gyda’r Cyngor a chyda’r cymdogion.

Cynaliadwyedd

Ers mis Medi 2010, mae gofynion newydd wedi cael eu cyflwyno sy’n golygu bod rhaid i ddatblygiadau mwy o faint fodloni safonau adeiladu fel rhan o’r broses gynllunio. Dyma un o’r ffyrdd allweddol o roi targedau di-garbon Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer datblygiadau newydd ar waith. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn gosod y safonau gofynnol ar gyfer y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd. Rhaid i geisiadau ar gyfer un annedd neu ragor gyrraedd lefel 3 y Côd Cartrefi Cynaliadwy.

Rhaid i geisiadau ar gyfer datblygiadau dibreswyl sydd â 1,000 metr sgwâr neu fwy o arwynebedd llawr; neu a fydd yn cael eu hadeiladu ar safle ag arwynebedd o un hectar neu fwy, gyrraedd safon ‘Da Iawn’ Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) a chyflawni'r credydau gorfodol ar gyfer ‘Gwych’ o dan ENE1 - Lleihau Allyriadau CO2. Disgwylir y bydd y dull ar gyfer bodloni’r targedau yma cael ei ddisgrifio mewn unrhyw Ddatganiadau Dylunio a Mynediad ategol fydd yn cael eu cyflwyno gyda cheisiadau cynllunio.

Architecture Centre Network

Mae'r Architecture Centre Network (ACN) yn cydlynu, yn cefnogi ac yn datblygu’r gwaith ym maes pensaernïaeth a chanolfannau perthnasol. Mae’r ACN yn ceisio gwneud yn siŵr bod gwybodaeth, cyfranogiad, mynediad a dylanwad ar bob lefel er mwyn creu amgylchedd adeiledig arbennig i bawb.

Building for Life

Mae Building for Life yn dod â’r dylunwyr a’r meddylwyr creadigol gorau at ei gilydd i hyrwyddo dylunio o ansawdd mewn tai newydd.

CABE 

Mae’r Commission for Architecture and the Built Environment yn hyrwyddo adeiladau a llefydd cyhoeddus sydd wedi’u dylunio’n dda yn y DU. Maen nhw’n gweithio gyda Llywodraeth Leol, datblygwyr a’r cyhoedd i godi safonau dylunio. Mae’r wefan hon yn cynnwys ystod eang o ddogfennau dylunio defnyddiol y mae modd eu lawrlwytho.

DCFW  

Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn fudiad cenedlaethol gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Llywodraeth y Cynulliad sy’n ei noddi hefyd. Rôl y Comisiwn yw hyrwyddo safonau uchel ym meysydd pensaernïaeth, dylunio tirwedd a dylunio trefol yng Nghymru; hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o bwysigrwydd ansawdd da yn yr amgylchedd adeiledig; cefnogi cynyddu sgiliau; ac annog cynhwysiant cymdeithasol a datblygu cynaliadwy.

Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru

Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru yw sefydliad rhanbarthol Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain yng Nghymru.

RUDI

Mae’r Resource for Urban Design Information (RUDI) yn wasanaeth annibynnol, diduedd a hefyd dyma’r adnodd fwyaf ar y we ar gyfer cynllunio trefol.

Urban Design Group

Mae’r Urban Design Group yn darparu fforwm i gwmnïau pensaernïol, dylunio a chynllunio trefol gael trafod materion sy’n ymwneud â dylunio trefol. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am aelodau a’r newyddion diweddaraf yn y diwydiant.