Bydd eich casgliadau wythnosol ar gyfer deunyddiau i'w hailgylchu, bwyd, cewynnau a gwastraff bagiau du yn newid yn ystod wythnos y Nadolig.
Bydd casgliadau sydd i fod 25 Rhagfyr yn cael eu gwneud 27 Rhagfyr a chasgliadau drwy'r wythnos yn neidio 2 ddiwrnod – dydd Iau i ddydd Sadwrn, dydd Gwener i ddydd Sul.
Bydd eisiau i wastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) gael eu gosod yn y man arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.
| Diwrnodau gwaith fel arfer | Casgliadau diwygiedig |
|
Dydd Llun 22 Rhagfyr
|
Dim newid
|
|
Dydd Mawrth 23 Rhagfyr
|
Dim newid
|
|
Dydd Mercher 24 Rhagfyr
|
Dim newid
|
|
Dydd Iau 25 Rhagfyr
|
Dydd Sadwrn 27 Rhagfyr
|
|
Dydd Gwener 26 Rhagfyr
|
Dydd Sul 28 Rhagfyr
|
Bydd casgliadau yn cael eu gwneud yn ôl yr arfer ddydd Llun 29 Rhagfyr a dydd Mawrth 30 Rhagfyr a 31 Rhagfyr. Bydd casgliadau wedyn yn neidio 1 diwrnod o Ddydd Calan (dydd Iau) – felly bydd casgliadau dydd Iau yn cael eu gwneud ddydd Gwener, ac yn y blaen. Mae hyn yn berthnasol i BOB UN o'ch casgliadau: gwastraff ailgylchu, bwyd, cewynnau a bagiau du o ddydd Ian 1 Ionawr – sylwch, fydd DIM CASGLIAD ar Ddydd Calan.
Dylech chi roi’r holl wastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) yn y man casglu arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.
| Tabl Enghreifftiol |
|
Diwrnodau gwaith fel arfer
|
Casgliadau diwygiedig
|
|
Dydd Llun 29 Rhagfyr
|
Dim newid
|
|
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr
|
Dim newid
|
|
Dydd Mercher 31 Rhagfyr
|
Dim newid
|
|
Dydd Iau 1 Ionawr
|
Dydd Gwener 2 Ionawr
|
|
Dydd Gwener 2 Ionawr
|
Dydd Sadwrn 3 Ionawr
|
Bydd gwasanaethau eraill, megis casglu gwastraff swmpus a danfon biniau gwastraff bwyd yn cael eu hatal dros dro yn ystod wythnosau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ganolbwyntio ar gasglu'r llwyth mawr o wastraff ailgylchu rydyn ni'n ei ddisgwyl adeg y Nadolig eleni.
Bydd gwasanaeth Casglu Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf (gan gynnwys coed Nadolig sydd heb eu trefnu i gael eu casglu) yn cael ei ohirio am yr wythnos sy'n dechrau dydd Mercher 24 Rhagfyr. Bydd Casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf wedi'u trefnu yn ailddechrau ddydd Llun, 12 Ionawr 2026. Bydd modd i chi fynd â'ch gwastraff gwyrdd, gan gynnwys coed Nadolig go iawn (heb fag), i'ch canolfan ailgylchu yn y gymuned leol drwy gydol cyfnod yr ŵyl.
Bydd y gwasanaethau arferol yn ailddechrau ddydd Llun 5 Ionawr.
Os nad ydyn ni wedi casglu'ch gwastraff / eitemau ailgylchu yn ôl y disgwyl, gadewch yr eitemau ar y pafin. Mae'n bosibl bod ein gweithwyr yn gweithio oriau ychwanegol er mwyn ateb y galw. Mae'n bosibl y bydd ein criwiau'n gweithio gyda'r nos yn ystod cyfnodau prysur, ac mae modd i staff ychwanegol cael eu galw i gael gwared ar yr eitemau'r diwrnod canlynol.
Mae modd i drigolion ymweld ag un o'r nifer o fannau casglu ar draws Rhondda Cynon Taf cyn cyfnod yr ŵyl i gasglu digon o fagiau ailgylchu – dewch o hyd i'ch man casglu agosaf yma: www.rctcbc.gov.uk/bagiau.
Hefyd, hoffai carfan Gofal y Strydoedd atgoffa trigolion i barcio'n synhwyrol er mwyn sicrhau bod modd i'r lorri ailgylchu ddod i lawr eich stryd.