Skip to main content
Alert Symbol
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd AMBR am law ddydd Llun 1st Rhagfyr ymaledled Rhondda Cynon Taf tan 9pm. Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

Awgrymiadau Ailgylchu dros y Nadolig

Cynlluniwch Eich Prydau Bwyd

  • Ewch ati i greu bwydlen: Cynlluniwch eich prydau Nadolig ymlaen llaw i osgoi prynu gormod o gynhwysion.
  • Rheolwch faint o fwyd sydd ar eich plât: Coginiwch y bwyd sydd ei angen arnoch yn unig i leihau'r bwyd sydd dros ben. Ystyriwch nifer y gwesteion a'u dewisiadau dietegol.

Prynwch yn gall

  • Gwnewch restr siopa: Cadwch at restr i atal prynu byrbwyll gwastraffus.
  • Prynwch fwyd lleol a thymhorol: Cefnogwch ffermwyr lleol a lleihau allyriadau o achos trafnidiaeth trwy brynu cynnyrch tymhorol.

Ailddefnyddio ac ailgylchu

  • Byddwch yn greadigol gyda'ch bwyd dros ben: Trawsnewidiwch fwyd dros ben yn brydau newydd, megis cawl neu frechdanau, i leihau gwastraff.
  • Bryn Bin, cadi ailgylchu gwastraff bwyd: Defnyddiwch eich cadi gwastraff bwyd ar gyfer sbarion bwyd neu fwyd anfwytadwy, megis plisg wyau, carcasau Twrci.

Hoffech chi ragor o wybodaeth ac awgrymiadau o ran ailgylchu eich gwastraff Nadolig? Dilynwch ni ar Facebook neu X, neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig