Sut i ddelio â gwastraff eich anifeiliaid anwes
Gwastraff Anifeiliad Bychain
Mae modd ailgylchu blawd llif sydd wedi'i ddefnyddio mewn cwt anifeiliaid bach e.e. moch cwta, cwningod, llygod. Rhowch y blawd llif yn eich sach WERDD amldro a byddwn ni'n ei chasglu yn rhan o'ch gwasanaeth casglu sachau gwyrdd wythnosol.
Cofrestrwch ar gyfer Casgliadau Ailgylchu Gwastraff Gwyrdd yma.
Cŵn
Rhaid i faw ci gael ei roi mewn bag, ei glymu, a'i roi yn eich bag du/bin ar olwynion yn barod i'r gasglu. Mae modd i chi hefyd fynd â bagiau du â gwastraff anifeiliaid i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned agosaf.
Peidiwch â'i gompostio.
Cathod
Rhaid i faw a sbwriel cathod gael eu rhoi mewn bag, eu clymu, a'u rhoi yn eich bagiau du/bin ar olwynion yn barod i'w casglu. Mae modd i chi hefyd fynd â bagiau du â gwastraff anifeiliaid i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned agosaf.
Peidiwch â'i gompostio.
Ceffylau a merlod
Dylech chi gompostio tail mewn storfa tail sydd wedi'i hadeiladu'n gywir. Yna, mae modd iddo gael ei ddefnyddio fel gwrtaith.
Mae modd i chi ei roi i grŵp rhandir lleol os nad oes modd i chi ddefnyddio'r cyfan eich hunan.
Anifeiliaid anwes eraill
Dylech chi gael gwared ar wastraff anifeiliaid fferm yn eich bin compost.
Mae modd i chi gael gwared ar wastraff anifeiliaid fferm yn eich bagiau du neu'ch bin ar olwynion.
Dylech chi gael gwared ar wastraff anifeiliaid egsotig fel croen wedi'i rwygo, unrhyw ddillad gwely ac unrhyw faw yn eich bin compost neu fagiau du/bin ar olwynion.
Bwyd anifeiliaid anwes dros ben
Dylech chi gael gwared ar unrhyw fwyd sych i gŵn a chathod yn eich cadi gwastraff bwyd neu'ch bin compost.
Dylech chi gael gwared ar fwyd gwlyb i anifeiliaid yn eich cadi gwastraff bwyd.
Dylech chi gael gwared ar fwyd pysgod yn eich cadi gwastraff bwyd neu fin compost.
Bagiau Trwm
Mae RhCT yn deall bod gan rai trigolion wastraff trwm sydd methu cael ei ailgylchu, megis lludw glo a gwasarn cathod.
Rydym yn awgrymu felly bod trigolion yn hanner llenwi eu bagiau fel bod modd eu cario'n ddiogel ac yn gwneud cais am lwfans bag du ychwanegol, bydd hyn yn caniatáu iddyn nhw roi mwy o fagiau allan i'w casglu.
Os ydych chi'n teimlo y byddwch chi'n dal i gael trafferth wrth godi'r bagiau mae modd i chi wneud cais ar-lein am gasgliad â chymorth.
Nodwch y bydd ein Swyddogion Ymwybyddiaeth yn gwirio bod cartrefi'n ailgylchu cymaint â phosibl (gwiriad gweledol) cyn i lwfans gael ei ganiatáu.
Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd yma.