Mae casgliadau cewynnau yn wasanaeth casglu AM DDIM a gaiff ei gynnig i drigolion Rhondda Cynon Taf. Mae angen i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth yma.
Dyma sut mae'n gweithio
Mae angen i chi gofrestru i ddechrau derbyn y gwasanaeth casglu cewynnau.
Mae'r bagiau porffor ar gyfer ailgylchu cewynnau'n rhad ac am ddim ac yn cael eu danfon i'ch drws. Bydd defnyddio bagiau porffor yn cadw'ch bagiau du yn rhydd rhag arogleuon cewynnau, ac yn eich helpu i reoli'ch lwfans bagiau du.
O fewn pythefnos o gofrestru, byddwn ni'n anfon e-bost atoch chi i gadarnhau eich diwrnod casglu ac yn danfon eich bagiau porffor atoch chi. Bydd casgliadau cewynnau yn digwydd yn wythnosol o'ch man casglu gwastraff ac ailgylchu arferol.
Byddwch chi wedi'ch cofrestru am 3 blynedd, ond mae modd i chi ymestyn eich casgliadau os oes angen.
Er mwyn rhoi cewynnau allan i'w casglu:
- Cofrestrwch ar gyfer casgliadau
- Gwriwch eich diwrnod casglu cewynnau ar ôl i chi gofrestru oherwydd efallai y bydd yn wahanol i'ch diwrnod casglu gwastraff arferol
- Dim ond cewynnau wedi'u defnyddio, clytiau papur gwlyb a bagiau cewynnau a ddylai gael eu rhoi yn eich bag porffor
- Peidiwch â defnyddio bagiau du, bagiau ailgylchu clir neu unrhyw fagiau eraill na chafodd eu darparu gennym ni
- Peidiwch â gorlenwi'ch bag
- Clymwch y bag yn dynn
- Rhowch gynifer o fagiau porffor allan ag sydd eu hangen arnoch chi ar bob diwrnod casglu
- Rhowch eich bag yn eich man casglu arferol erbyn 7am
Os dydych chi ddim wedi rhoi bagiau allan i'w casglu am 4 wythnos yn olynol, byddwn ni’n tybio nad ydych chi angen y gwasanaeth mwyach a byddwn ni'n tynnu'ch cyfeiriad o'r rownd gasglu.
Cofrestru ar gyfer casgliadau
Pan fydd gyda chi wastraff cewynnau i'w casglu, cofrestrwch eich cyfeiriad i dderbyn y gwasanaeth casglu. Byddwn ni'n anfon e-bost atoch chi yn cadarnhau'r diwrnod casglu ac yn danfon bagiau porffor atoch chi o fewn pythefnos.
Mae modd i chi gofrestru am hyd at 3 blynedd ac mae modd i chi ymestyn eich casgliadau os oes angen.
Os byddwch chi'n cofrestru'n gynnar, efallai y byddwn ni'n tybio nad oes angen y gwasanaeth arnoch chi mwyach ac yn canslo'ch casgliadau os dydych chi ddim wedi rhoi bagiau porffor allan am 4 wythnos yn olynol.
Cofrestru ar gyfer casgliadau cewynnau
Yr hyn mae modd i chi ei roi yn y bag a'r hyn does dim modd i chi ei roi yn y bag
Le:
- Cewynnau
- Clytiau papur gwlyb
- Bagiau cewynnau
Na:
- Dillad - Glân neu frwnt
- Cadachau mislif
- Rhwymynnau a gorchuddion
- Bagiau stoma, cathetrau neu wastraff colostomi
Archebu rhagor o fagiau
Ar ôl i chi gofrestru mae modd i chi archebu rhagor o fagiau porffor i'w danfon i'ch cartref o fewn 10 diwrnod gwaith.
Archebu rhagor o fagiau porffor
Rhoi gwybod am wastraff sydd heb gael ei gasglu
Os rydych chi wedi cofrestru a dydy'ch bagiau ddim wedi'u casglu erbyn 3pm ar eich diwrnod casglu, yn y lle cyntaf gwiriwch eich diwrnod casglu cewynnau er mwyn cadarnhau nad yw wedi newid. Os nad yw'r diwrnod casglu wedi newid, dylech chi roi gwybod am y gwastraff sydd heb gael ei gasglu.
Rhoi gwybod am wastraff cewynnau sydd heb gael ei gasglu
Ymestyn eich casgliadau
Mae eich cofrestriad yn para hyd at 3 blynedd.
Os oes angen rhagor o amser arnoch chi, mae modd i chi ymestyn eich casgliadau drwy gofrestru eto.
Ymestyn eich casgliadau cewynnau
Newid eich cyfeiriad
Rhowch wybod i ni 1 wythnos cyn i chi symud, oherwydd mae'n bosibl y bydd eich diwrnod casglu'n newid.
Newid eich casgliadau cewynnau
Canslo eich casgliadau
Mae modd i chi ganslo eich casgliadau cewynnau os dydych chi ddim eu hangen mwyach.
Canslo eich casgliadau cewynnau