Ydych chi angen rhagor o fagiau ar gyfer ailgylchu, gwastraff bwyd, cewynnau, gwastraff anymataliaeth, gwastraff gwyrdd, neu fin gwastraff bwyd?
Casglu bagiau ailgylchu clir a bagiau gwastraff bwyd
Dylech chi ddefnyddio'r bagiau yma ar gyfer eich deunydd ailgylchu a'ch gwastraff bwyd yn unig. Caiff uchafswm o 2 rholyn o bob bag ei roi fesul ymwelydd er mwyn sicrhau nad ydyn ni'n rhedeg allan o stoc.
Mae modd i chi gasglu bagiau o'r lleoliadau canlynol:
Mannau Casglu Bagiau Cwm Rhondda
Mannau Casglu Bagiau Cwm Cynon
Mannau Casglu Bagiau Taf-elái
Archebu rhagor o fagiau porffor ar gyfer cewynnau a gwastraff anymataliaeth
Os ydych chi wedi cofrestru mae modd i chi archebu rhagor o fagiau porffor i'w danfon i'ch cartref gan y criw casglu o fewn eich dau ddiwrnod casglu nesaf.
Archebu bagiau porffor
Archebu bin gwastraff bwyd newydd
Archebu bin gwastraff bwyd newydd i'w danfon i'ch cartref ar gyfer eich casgliadau gwastraff bwyd wythnosol.
Gwneud cais am fin gwastraff bwyd
Archebu rhagor o sachau gwastraff gwyrdd
Os ydych chi wedi cofrestru mae modd i chi brynu sachau ychwanegol am £3.20 yr un. Mae pob sach yn dal 90 litr (45cm x 45cm x 45cm). Mae hynny'n cyfateb i ddau a hanner o fagiau ailgylchu clir.
Prynu Sachau Gwastraff Gwyrdd Ychwanegol