Skip to main content

Atgyweirio, ailddefnyddio a rhoddi

Cymorth a chyngor ar gyfer atgyweirio, ailddefnyddio a rhoddi eich eitemau.

Atgyweirio eitemau

Os oes gyda chi eitemau sydd wedi torri ac sydd angen eu trwsio, chwiliwch y Cyfeiriadur Atgyweirio - cyfleuster chwilio ar-lein sy'n ei gwneud hi'n hawdd ac yn gyflymach i chi ddod o hyd i fusnes atgyweirio yn eich ardal chi. 

Ailddefnyddio a rhoddi eitemau

Mae modd i chi ailddefnyddio, rhoddi a phrynu eitemau gan y sefydliadau elusennol lleol canlynol sydd yn Rhondda Cynon Taf;

  • Rhy Dda i'w Wastraffu / Too Good to Waste
  • Y Sied

Y Sied - Siopau Ailddefnyddio 

the-shed-logo

Mae Y Sied yn siop ailddefnyddio leol gyda changhennau yn Llantrisant, Treherbert ac Aberdâr.

Mae'r eitemau sydd ar werth wedi cael eu gweddnewid ar ôl cyrraedd Canolfannau Ailgylchu Llantrisant, Aberdâr a Threherbert. Mae modd eu prynu o'r siopau am brisiau rhagorol.

Cyfeiriadau'r tair cangen:

  • Llantrisant: Y Sied, Llantrisant, Uned 2 Ffordd Prichard, Parc Busnes Llantrisant, Llantrisant. CF72 8LF
    Oriau agor
    Dydd Llun i ddydd Sul: 9.30am tan 4pm
  • Aberdâr: Y Sied, Aberdâr, 31 / 32 Stryd y Canon, Aberdâr, CF44 7AP
    Oriau agor
    Dydd Llun i ddydd Sadwrn: 9.30am tan 4pm
  • Treherbert: Y Sied, Treherbert, Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Treherbert, Ystad Ddiwydiannol Treherbert, Treherbert, CF42 5HZ
    Oriau agor
    Dydd Llun i ddydd Sadwrn: 9.30am tan 4pm

Prynwch a rhoddwch yr eitemau canlynol yn Y Sied;

  • Dodrefn (cartref a gardd)
  • Addurniadau a llestri
  • Teganau a beiciau
  • DVDau

Dilynwch The Shed Community ar Facebook am eitemau nodedig ac am gipolwg ar yr hyn sydd ar werth!

Too good to waste logo

Rhy Dda i'w Wastraffu / Too Good To Waste

Mae Rhy Dda i'w Wastraffu / Too Good To Waste yn elusen ailddefnyddio leol.

Cyfeiriadau'r tair cangen:

  • Aberdâr: Uned 3 Ystad Ddiwydiannol Aberaman, Aberaman, CF44 6DA
    Oriau agor
    Dydd Llun: 9am i 5pm
    Dydd Mawrth: 10am i 5pm
    Dydd Mercher i ddydd Gwener: 9am i 5pm
  • Treorci: Stryd Horeb, Treorci, CF42 6RU
    Oriau agor
    Dydd Mawrth:  10am i 5pm
    Dydd Mercher i ddydd Sadwrn:  9am i 5pm
  • Ynys-hir: Heol Ynys-hir, Ynys-hir, CF39 0AT
    Oriau agor
    Dydd Llun: 9am i 5pm
    Dydd Mawrth: 10am i 5pm
    Dydd Mercher i ddydd Sadwrn: 9am i 5pm

Prynwch a rhoddwch yr eitemau canlynol yn Rhy Dda i'w Wastraffu / Too Good To Waste:

  • Dodrefn (cartref a gardd)
  • Offer trydanol a nwyddau trydanol gwyn
  • Dillad ac esgidiau
  • Addurniadau a llestri
  • Teganau a beiciau

Mae modd i Rhy Dda i'w Watrsffu / Too Good To Waste hefyd gasglu eitemau mawr o'ch cartref hefyd. 

Mae'r eitemau y mae modd eu casglu yn cynnwys:

  • Sofas a chadeiriau breichiau
  • Byrddau a chadeiriau
  • Byrddau wrth ochr y gwely a droriau
  • Oergelloedd a Rhewgelloedd
  • Peiriannau golchi a sychwyr dillad
  • Teledau

Dysgwch ragor am beth allwch chi ei brynu a'i roddi yn Rhy Dda i'w Wastraffu / Too Good Too Waste

Dilynwch Too Good To Waste ar Facebook am y newyddion diweddaraf.