Fydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ddim yn casglu Gwastraff Clinigol ar ôl 1 Rhagfyr, 2017. Bydd y casgliadau yma'n cael eu trosglwyddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
Trefnu casglu gwastraff clinigol
Os oes angen casglu gwastraff clinigol arnoch, ffoniwch y Gwasanaethau Negesydd Iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 0300 123 9208.
Beth yw gwastraff clinigol?
- Offer miniog meddygol (nodwyddau, chwistrellau neu offer miniog eraill) – sy'n cael eu cadw mewn biniau melyn.
- Gwastraff clinigol peryglus (rhwymau neu glytiau wedi'u heintio â gwaed neu wastraff dialysis) – sydd wedi'i storio mewn bagiau gwastraff clinigol oren.
Gwastraff Bag Stoma / Cathetr a Cholostomi
Dydy gwastraff stoma, cathetr a cholostomi ddinm in gymwys ar gyfer casgliad gwastraff clinigol. Dylai'r gwastraff yma gael ei rio mewn bagiau du.
Gwastraff Anymataliaeth
Mae modd i chi gofrestry ar gyfer y Cynllyn Ailgylchu Anymataliaeth wythnosol. Dyma ble mae modd trefnu casgliadau gan Wasanaeth Anymatiaeth y Cyngor. Bydd gwastraff un cael ei gasglu mewn bag porffor.
Eitemau dydyn ni DDIM yn eu casglu
- Thermomedrau.
- Tabledi, cynnyrch fferyllol ac anadlwyr asthma diangen.
Mae modd dychwelyd yr eitemau yma i'ch fferyllfa leol.