Bydd angen i drigolion sydd angen casgliadau gwastraff gwyrdd gofrestru ar gyfer y gwasanaeth.
Cofrestru am gasgliadau gwastraff gwyrdd ar-lein
O fewn 20 diwrnod o gofrestru byddwch chi'n derbyn dwy sach gwastraff gwyrdd am ddim ynghyd ag unrhyw sachau ychwanegol rydych chi wedi'u prynu.
Mae modd prynu sachau ychwanegol ar gost o £3 yr un ar yr adeg cofrestru, neu ar ôl hynny
A wyddoch chi?: Mae pob sach werdd yn dal 90 litr (45cm x 45cm x 45cm). Mae hynny'n cyfateb i ddau a hanner o fagiau ailgylchu clir.
Cyngor Craff: Mae modd plygu ochrau'r sach a rhoi un handlen y tu mewn i'r llall (fel cris-croes) i wneud i'r sachau dynnu'n agosach at ei gilydd.