Skip to main content

Gwastraff heb ei gasglu

Rydyn ni'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob eiddo sydd angen gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd gofrestru eu manylion

“Rhowch eich deunyddiau ailgylchu a’ch gwastraff allan i’w casglu erbyn 7am ar eich diwrnod casglu. Er ein bod yn gwneud ein gorau i gasglu eich deunyddiau ailgylchu a'ch gwastraff ar eich diwrnod casglu penodedig, weithiau efallai na fydd hynny'n bosibl. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn ceisio dod i'w casglu y diwrnod canlynol, felly gadewch unrhyw fagiau a sachau allan i'w casglu”.

 

Fydd gwastraff gwyrdd ddim yn cael ei gasglu o gartrefi sydd heb gofrestru. 

Mae modd i chi gofrestru ar-lein neu ein ffonio ni ar 01443 425001.

Os ydych chi wedi cofrestru ac wedi gwirio'ch diwrnod casglu, a bod eich sachau gwastraff gwyrdd heb eu casglu cyn pen 24 awr ar ôl y diwrnod sydd wedi'i drefnu ar eich cyfer, mae modd i chi roi gwybod am wastraff heb ei gasglu ar-lein