Skip to main content

Cael Gwared ar Asbestos

Bydd Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Amgen, Llwydcoed, yn derbyn o gartrefi dan yr amodau canlynol:- 
  • Rhaid trefnu apwyntiad gyda'r safle er mwyn cael gwared ar asbestos.
  • Rhaid ffonio cynorthwywr y safle yng Nghanolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Amgen ar 07971913289 er mwyn trefnu dyddiad ac amser ac er mwyn rhoi gwybodaeth ynglŷn â'r anghenion o ran pacio.

  • Bydd angen prawf o'ch cyfeiriad hefyd.

Nodwch: Os ydych chi'n gofyn i adeiladwr neu gwmni adeiladu gael gwared ar fatiau a phibellau asbestos ac ati, yr adeiladwr neu'r cwmni fydd yna'n gyfrifol am yr eitemau yma. Cyfrifoldeb y person neu'r bobl yma wedyn yw cael gwared ar yr eitemau yma.

Mae asbestos yn fwyn gwenwynig, a gall cysylltiad ag asbestos achosi'r canser anghyffredin, mesothelioma.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r canser anghyffredin yma a chyfraddau goroesi mesothelioma, ewch i pleuralmesothelioma.com. Mae'r wefan yma'n cynnig gwybodaeth gynhwysfawr ynglŷn ag effaith dod i gysylltiad ag asbestos a chanser mesothelioma.