
Ymddeoliad Chris LLoyd
Dyma ffarwelio â ffrind a chydweithiwr da, Chris Lloyd, y mis yma.
Wedi 17 o flynyddoedd yn gweithio i'r Cyngor, rydyn ni'n dweud hwyl fawr wrth Chris Lloyd sy'n ymddeol. Dros y blynyddoedd mae Chris wedi gweithio'n ddiflino’n diwtor ac yn swyddog achredu ac roedd bob amser yn barod i helpu a chefnogi eraill. Byddwn ni'n gweld eisiau Chris, a oedd yn adnabyddus am ei chyrsiau coginio a'i sgiliau crefft siwgr.
Dyma ddymuno ymddeoliad llawn chwerthin, heulwen ac ymlacio i’n ffrind a chydweithiwr da – diolch Chris.
Wedi ei bostio ar 30/05/2025