
British Sign Language
Eisiau dysgu hanfodion Iaith Arwyddion Prydain (BSL)? Mae'r sesiwn flasu hon, sy'n addas i ddechreuwyr, yn cynnig cyflwyniad i gyfathrebu bob dydd yn BSL.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu:
• Yr wyddor BSL
• Arwyddion ar gyfer teulu a ffrindiau
• Ffurfiau cwestiwn
• Teimladau ac emosiynau
• Amser
• Rhifau
• Arian
Canlyniadau dysgu: Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:
• Cyflwyno eich hun yn BSL
• Cynnal sgwrs syml
• Gofyn ac ateb cwestiynau sylfaenol amdanoch chi'ch hun
• Defnyddio geirfa bob dydd yn hyderus
Ychwanegwyd 3 chwrs byr newydd; cofrestrwch yma. - https://bookwhen.com/dysguoedolionynygymuned
Wedi ei bostio ar 18/09/2026