Skip to main content

Diwrnod Ymwybyddiaeth Ailgylchu Byd-eang: Ymdrech Wych Matthew

 
Global recycling day - Matthew 300x400 3

Diwrnod Ymwybyddiaeth Ailgylchu Byd-eang: Ymdrech Wych Matthew

Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae'r dysgwr Matthew Rees wedi bod yn casglu ac yn ailgylchu caniau i godi arian ar gyfer Ysbyty Felindre, elusen sy'n bwysig iddo. Mae'n gwasgu'r caniau, yn eu pwyso nhw, ac ar gyfartaledd yn codi swm anhygoel o £2,000 y flwyddyn!

Nid caniau yw'r unig bethau mae Matthew yn eu casglu. Mae hefyd yn casglu pecynnau o greision, sy'n cael eu toddi a'u troi'n bethau fel meinciau a blancedi ffoil - does dim gwastraff.
Mae'n wych gweld pawb o'i gwmpas yn cymryd rhan, hefyd. Mae ei gyfoedion, staff, ffrindiau a llwyth o bobl sydd yn ei adnabod yn cadw eu caniau a'u pecynnau er mwyn eu rhoi nhw iddo. Mae wedi dod yn ymdrech gan y gymuned gyfan.

Wrth i ni ddathlu Diwrnod Ymwybyddiaeth Ailgylchu Byd-eang, mae gwaith caled Matthew yn ein hatgoffa o sut mae gweithredoedd bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr - i'r amgylchedd ac elusennau.
Da iawn, Matthew! Dal ati - rwyt ti wir yn gwneud gwahaniaeth.

Wedi ei bostio ar 17/03/2026