Skip to main content

Sensory, Medical and Physical Needs

 Synhwyraidd – Gwasanaeth Cynghori: Byddardod

Ein gwaith gyda theuluoedd gartref, mewn lleoliadau cyn ysgol ac ysgolion.

Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar gyfer plant sydd â byddardod yn rhan o'r Gwasanaeth Synhwyraidd. Rydyn ni'n rhoi cyngor a chymorth i blant a phobl ifainc sydd â byddardod; hyn o adeg eu geni hyd nes y bydd y plentyn yn gadael yr ysgol.

Y nod o ran y gwasanaeth yw datblygu dealltwriaeth, hyder ac arbenigedd ynghylch byddardod drwy gynnig cyngor a chymorth i deuluoedd a lleoliadau addysgol, gan sicrhau bod ein plant a'n pobl ifainc yn cael darpariaeth gyfartal er mwyn cyrraedd eu llawn botensial.

Yn rhan o'r garfan mae pedwar Athro/Athrawes ar gyfer Plant Byddar (QToD) a dau Weithiwr Cymorth Cyfathrebu (CSW) sydd â sgiliau, profiad a chymwysterau ym maes Iaith Arwyddion Prydain. Mae'r garfan yn gweithio i gynnig y gwasanaeth o'r ansawdd gorau posib i'n plant a phobl ifainc, eu teuluoedd, ac i'w lleoliadau addysgol. 

Dyma sut mae'n gweithio

Yn dilyn atgyfeiriadau gan Wasanaeth Awdioleg Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg bydd y plentyn neu'r person ifanc yn cael ei sgrinio drwy fframwaith partneriaeth y National Sensory Impairment Partnership (NATSIP). Bydd cyswllt cychwynnol yn cael ei wneud ag ysgolion i gynnal asesiadau ac/neu arsylwadau a bydd unrhyw ymweliadau dilynol yn cael eu pennu er mwyn cadw golwg ar gynnydd o ran targedau ac i arfarnu cynhwysiant yn barhaol. Ar gyfer teuluoedd plant o oedran cyn ysgol, bydd ymweliadau â'r cartref yn cael eu cynnal, felly hefyd â'r lleoliad cyn ysgol er mwyn cwrdd â'r teuluoedd, darparwyr gofal a darparwyr.

Bydd y garfan yn gweithio'n agos â'r ysgolion i olrhain cynnydd ac i ofalu bod y plant a phobl ifainc byddar sydd wedi'u nodi'n blant sy'n tan berfformio, yn cael cymaint o gymorth â phosib.  

Ar gyfer plant sydd â byddardod dros dro neu Glust Ludiog (Glue Ear) bydd cyngor yn cael ei roi i ysgolion a bydd cymorth parhaol, neu fonitro yn cael ei gynnig mewn ymgynghoriad â'r adran Awdioleg. Yn achos nifer o'r plant yma, bydd Clust Ludiog yn gwella dros amser.

Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig

  • Ymweliadau â'r cartref i fod yn gymorth i deuluoedd, i hyrwyddo datblygiad cynnar cyfathrebu ac iaith.
  • Cyngor a chymorth pontio i leoliadau'r Blynyddoedd Cynnar a thrwy ystod pob cyfnod allweddol.
  • Rhoi cymorth i fyfyrwyr drwy'r cyfnod pontio i'r ddarpariaeth ôl 16 oed/addysg bellach ac i'r cyfnod o fod yn oedolyn annibynnol.
  • Asesu anghenion neu feysydd penodol fel datblygiad iaith, prosesu, gwrando, talu sylw a sgiliau cymdeithasol.
  • Monitro'r ffordd mae defnyddio cymorth clyw/mewnblaniad yn y cochlea mewn modd effeithiol yn cael ei reoli i sicrhau'r posibiliadau gorau posib o ran lleferydd.
  • Cyfrannu at Gyfarfodydd Amlddisgyblaeth Y Garfan Awdioleg, Asesiadau Clyw Pediatrig ac Adolygiadau Clinigau Clyw.
  • Argymhellion ar dechnoleg gynorthwyol ac adnoddau cymorth. Er enghraifft, cymhorthion radio, systemau maes sain ac acwsteg gyffredinol.
  • Ymweld â'r lleoliadau addysg, a rhoi cymorth iddyn nhw.
  • Rhoi cymorth i deuluoedd o ran Iaith Arwyddion Prydain, hyn dan ofal ein QToDs neu ddarparwyr sy'n cael eu hargymell.
  • Cynnig hyfforddiant wedi'i deilwra i leoliadau fel bo'r galw.
  • Mynediad at ystod o gymorth er enghraifft gan gymdeithas y National Deaf Children's Society a hyfforddiant o fathau eraill fel cyrsiau ar-lein.
  • Perthnasoedd gweithio agos â'n cydweithwyr yn y maes iechyd er mwyn rhannu gwybodaeth gyfredol a diweddariadau o ran awdioleg.
  • Addysgu uniongyrchol o ran sgiliau arbenigol, e.e sgiliau penodol o ran iaith, sgiliau eiriolaeth o ran colli clyw / byddardod a sgiliau dealltwriaeth o ran colli clyw / byddardod.
  • Rhoi cyngor i staff ysgolion ynghylch trefniadau mynediad ar gyfer arholiadau.
  • Gwaith ar y cyd gydag ystod o bartneriaid allweddol fel:
    • Y Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCos) mewn ysgolion
    • Ymwelwyr Iechyd
    • Nyrs yr ysgol
    • Therapydd Iaith a Lleferydd  

Synhwyraidd – Gwasanaeth Cynghori: Nam ar y Golwg

Mae Athrawon Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg (QTVI) yn gweithio gyda phlant a phobl ifainc o bob oedran o pan maen nhw'n fabis hyd nes y byddan nhw'n gorffen yn yr ysgol. Mae'r gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth gydag arbenigwyr Sefydlu, gweithwyr Iechyd proffesiynol a Gofal Cymdeithasol. Mae gofyn i Athrawon Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg wneud y canlynol, ymhlith pethau eraill, yn rhan o'u rôl:

  • Monitro Disgyblion, eu Rhieni, a'u Lleoliad Addysgol, a rhoi cymorth iddyn nhw o ran codi ymwybyddiaeth ynghylch materion nam ar y golwg ac asesu eu hanghenion gweledol.
  • Rhoi cymorth ychwanegol i ddisgyblion unigol a phlant o oedran cyn ysgol, gan gynnwys sgiliau Braille a bysellfyrddau arbenigol.
  • Rhoi hyfforddiant i ysgolion i'w helpu i ddeall anghenion disgyblion sydd â nam ar eu golwg.
  • Rhoi hyfforddiant ynghylch ymwybyddiaeth i ysgolion; hyfforddiant sy'n benodol i'r pwnc dan sylw; hyfforddiant yn ymwneud ag offer arbenigol gan gynnwys sut mae defnyddio deunyddiau ysgrifennu a darllen ac ati, fel darllen ar y sgrin, meddalwedd chwydd wydr, cymorthyddion ar gyfer golwg gwan a dyfeisiau braille.
  • Rhoi cymorth penodol yn ymwneud â Namau ar y Golwg o ran pontio a hyfforddiant ble bynnag a phryd bynnag mae hynny'n angenrheidiol.
  • Rhoi cymorth a chyngor i rieni/gwarcheidwaid.
  • Hyrwyddo hyfforddiant a'i gynnal ym maes lles emosiynol a sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu.
  • Bod yn gymorth i ddisgyblion drwy'r cyfnod pontio hyd at ddarpariaeth ôl 16 oed / addysg bellach hyd at pan fyddan nhw'n oedolion annibynnol.
  • Grymuso disgyblion sydd â nam ar eu golwg a rhoi cymorth iddyn nhw ddatblygu hunanhyder a hunanbarch.
  • Addysgu sgiliau arbenigol, er enghraifft Braille, a sut mae defnyddio offer arbenigol a TGCh, a sgiliau ar gyfer byw'n annibynnol a dysgu.
  • Addasu adnoddau addysgu a dysgu sydd ar ffurf print, a rhai clywedol neu gyffyrddol, a'u diwygio, a hyfforddi staff y lleoliad i wneud hyn.
  • Rhoi cyngor i staff ysgolion ynghylch trefniadau hygyrch ar gyfer arholiadau.
  • Bod yn gefn i ddisgyblion gyrraedd eu llawn botensial, beth bynnag fo'u nam ar y golwg,

Dyma daflen ffeithiau sydd wedi'i pharatoi gan sefydliad y RNIB sy'n rhoi amlinelliad o rôl y QTVI:

Role of a Specialist Visual Impairment Teacher - QTVI (opens in a new tab)

 chymdeithas yn dod yn fwyfwy cynhwysol, rôl Athrawon Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg yw gofalu bod plant a phobl ifainc sydd â Nam ar y Golwg, a'u rhieni/gwarcheidwaid, yn cael cynnig dewisiadau ac opsiynau.  Mae arbenigedd ac adnoddau ar gael i ddisgyblion rhieni/gwarcheidwaid ac ysgolion er mwyn sicrhau mynediad cynhwysiant llawn at ddysgu. Bydd modd cyrchu cymorth yn ymwneud â sgiliau byw'n annibynnol a symudedd fel bo'r angen gan arbenigwyr Sefydlu RhCT. Mae gweithio ar y cyd yn cael ei roi ar waith i fod yn gymorth ac i sicrhau bod pob angen yn cael ei ddiwallu.

Sut rydw i'n cael gafael ar gymorth gan QTVI/Athrawon Arbenigol yn y maes Namau ar y Golwg 

Gall atgyfeiriadau ar gyfer cymorth Namau ar y Golwg gael eu gwneud gan feddyg arbenigol, Swyddog Cyswllt Clinig y Llygad (ECLO) yn adran Ophthamoleg yr ysbyty neu gan ysgol. Gall y plentyn gael ei ardystio â Nam ar y Golwg neu â Nam Difrifol ar y Golwg. Unwaith y bydd manylion y plentyn wedi dod i law, bydd y QTVI yn cysylltu'n uniongyrchol er mwyn asesu'r plentyn yn unol â fframwaith partneriaeth y National Sensory Impairment Partnership (NATSIP) ac yna bydd yn cael cynnig y cymorth addas yn unol eto â fframwaith NATSIP.

Os yw'r plentyn neu'r person ifanc dan ofal optegydd yn unig, mae'n annhebygol y bydd gofyn cael cymorth QTVI, gan fod eu golwg wedi'i gywiro gan sbectolau â phresgripsiwn. Mae gofyn cael atgyfeiriad at QTVI pan fydd gyda phlentyn neu berson ifanc nam ar y golwg nad oes modd ei gywiro â sbectolau â phresgripsiwn. 

Nam ar y Golwg a'r Blynyddoedd Cynnar 

(Cymorth ar gyfer plant o oedran dysgu cyn ysgol a'r meithrin)

Yn ystod y Blynyddoedd Cynnar, mae'n bwysig rhoi cymorth o ran datblygiad ymwybyddiaeth gyffyrddol plentyn a'i sgiliau gweld sylfaenol drwy gysyniad y sgiliau edrych cadarnhaol. Mae'r math o ddysgu a chwarae yn dod yn ystyriaeth bwysig ac yn benodol i allu plentyn i archwilio’r amgylchedd o'i gwmpas. Unwaith y bydd plentyn wedi'i atgyfeirio at Athro/Athrawes Arbenigol yn y maes Namau ar y Golwg, bydd yn cael ei asesu a bydd strategaethau wedi'u teilwra i'r plentyn dan sylw yn cael eu rhoi ar waith er mwyn datblygu eu sgiliau gweledol sylfaenol.

Technoleg Hygyrch

Mae technoleg yn dod yn fwyfwy hygyrch i blant sydd â golwg gwan / wedi'u hardystio â nam ar y golwg. Os oes gyda phlentyn nam difrifol ar y golwg, yna mae'n bosib y bydd gofyn cael adnoddau chwyddo, cyffyrddol neu braille arbenigol. Ymhlith y mathau o feddalwedd a'r dechnoleg sydd ar gael, mae'r math teipio ar sail cyffyrddiad yn cael ei gynnig yn aml.

 

Synhwyraidd – Gwasanaeth Cynghori: Cymorth Arbenigol o ran Sefydlu

Mae gyda RhCT dri Arbenigwr Sefydlu a Swyddog Symudedd, sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol,  sydd yn rhoi cymorth i blant a phobl ifainc o ran namau ar y golwg ac/neu anableddau corfforol. Maen nhw'n rhoi hyfforddiant un wrth un i fod yn gymorth o ran symudedd plentyn/person ifanc, ei sgiliau llywio a byw'n annibynnol, a datblygu hyn oll.

Sut y gallan nhw fod o gymorth

Gall eu cymorth fod yn arbennig o bwysig ar adegau pontio fel pan fo plentyn yn dechrau mewn ysgol newydd, wrth symud i ysgol uwchradd neu orffen ynddi, neu wrth ymgymryd â lleoliad gwaith. Gallan nhw helpu disgyblion dall neu sydd â golwg rhannol, i ddod yn fwy hyderus mewn lleoliadau a sefyllfaoedd newydd a dod i arfer â hwy. Gallan nhw hefyd gynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol ar gyfer staff yn y lleoliadau yma.

Mae'r arbenigwyr yma’n rhan o'r gwasanaeth anghenion synhwyraidd, corfforol a meddygol ac maen nhw'n gweithio'n agos gydag athrawon arbenigolGall atgyfeiriadau at y gwasanaeth yma gael eu gwneud drwy gyfrwng yr athrawon arbenigol neu'r ysgol/lleoliad.

 

Anghenion Corfforol a Meddygol – Gwasanaeth Cynghori

Mae'r term Angen Corfforol / Meddygol yn derm ymbarél dros ystod eang o salwch a chyflyrau. Yn aml bydd y rhain yn rhai ag effaith hirdymor (neu gronig) ac yn aml bydd ar nifer o'r plant / pobl ifainc sy'n cael eu heffeithio gan hyn angen addasiadau fel bod modd iddyn nhw gyrchu bywyd ysgol yn llawn.  Bydd lefel a math yr addasiad yn dibynnu ar gymhlethdod yr angen.

Ymhlith rhai enghreifftiau o Anghenion Corfforol a Meddygol mae:

  • Cyflyrau fel parlys yr ymennydd, dystroffi’r cyhyrau neu spina bifida lle bydd plant / pobl ifainc o bosib yn wynebu anawsterau a fydd yn effeithio ar rai o'u cymalau neu bob un ohonyn nhw.
  • Cyflyrau fel diabetes neu epilepsi lle bydd gofyn cael cynlluniau meddygol i ofalu bod anghenion meddygol y plant/pobl ifainc yn cael eu diwallu yn ystod y diwrnod ysgol.
  • Cyflyrau eraill, fel rhai cyflyrau genetig, a allai effeithio ar ddatblygiad a dysgu cyffredinol plentyn / person ifanc.  

Gall difrifoldeb yr angen fod yn wahanol ar gyfer pob unigolyn a gallai newid ar wahanol gamau yn eu bywyd ysgol. Un o brif nodau'r Gwasanaeth Anghenion Corfforol a Meddygol yw bod o gymorth i ysgolion o ran diwallu anghenion unigol pob plentyn/person ifanc, wrth hefyd annog y plentyn/person ifanc dan sylw i fod mor annibynnol â phosib.

Sut y bydd yr ysgol yn helpu?

  • Dylai'r ysgol weithio gyda chi a'ch plentyn i ofalu eu bod yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd ar fywyd ysgol.
  • Mae'n ddyletswydd ar yr ysgol eu bod yn dwyn deddfwriaeth yn ymwneud â chydraddoldeb ac anabledd i ystyriaeth wrth roi cynllun ar waith i fod o gymorth i'ch plentyn a'i gynnwys.
  • Dylai'r ysgol ddwyn anghenion unigol eich plentyn i ystyriaeth. Bydd cymorth yn cael ei roi fel bo'r angen, ond dylai'r ysgol hefyd addysgu eich plentyn i fod mor annibynnol â phosib.
  • Dylai'r ysgol ofalu bod gyda'r staff sy'n gweithio gyda'ch plentyn y wybodaeth a'r ddealltwriaeth briodol ynghylch salwch neu gyflwr eich plentyn. Lle bo'n briodol, bydd hyfforddiant ar gyfer staff yn cael ei gynnig gan weithwyr iechyd proffesiynol, er enghraifft, nyrsys arbenigol, nyrsys yn y gymuned, therapyddion iechyd, ffisiotherapyddion, a therapyddion galwedigaethol.
  • Dylai cynlluniau y gallai fod gofyn eu cael, fod yn cael eu cofnodi a'u diweddaru. Ymhlith y rhain gallai fod cynllun gofal iechyd, proffil un dudalen, cynllun symud a thrin, a chynllun toilet.
  • Dylai pob aelod o'r staff sy'n gweithio gyda'ch plentyn fod yn ymwybodol o gryfderau ac anawsterau eich plentyn a bod yn gyfarwydd ag unrhyw gynlluniau sydd ar waith i fod yn gymorth iddyn nhw.     
  • Bydd modd i'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCo) wneud cais i'r Gwasanaeth Anghenion Corfforol a Meddygol fod yn rhan o bethau o ran rhoi cyngor ac arweiniad, neu o ran mewnbwn ymarferol, pan fyddan nhw'n cynllunio'r ffordd orau o fod o gymorth i'ch plentyn. 

Beth allaf i ei wneud i fod o gymorth i'm plentyn a'i ysgol?

  • Mae'n hanfodol eich bod yn rhannu unrhyw wybodaeth ddiweddaraf gyda'r ysgol.
  • Rhowch wybod i'r ysgol os bydd unrhyw newidiadau yn salwch neu gyflyrau eich plentyn, e.e. newidiadau o ran meddyginiaeth, gwybodaeth wedi'i diweddaru gan y gwasanaethau Iechyd.
  • Ceisiwch addysgu'ch plentyn sut mae gwneud pethau drosto'i hun. Gall fod yn fwy cyflym a rhwydd gwneud pethau dros blant, ond y nod bob amser yw eu haddysgu sut mae gwneud pethau mewn modd mor annibynnol â phosib, fel bod gyda nhw well cyfleoedd mewn bywyd.
  • Mae'n bwysig iawn ceisio ymarfer sgiliau fel gwisgo, defnyddio cyllell a fforc, estyn teganau ac offer a'u rhoi i gadw drachefn, gan y bydd hyn yn galluogi'ch plentyn i ddysgu i fod yn fwy annibynnol ac i gymryd rhan mewn modd mwy llawn mewn gweithgareddau.