Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru bellach yn gyfrifol am brosesu, asesu a thalu cyllid myfyrwyr ar gyfer pob cais.
Cyflwyno cais
Am fanylion ar sut i gyflwyno cais am gyllid myfyrwyr, ewch i:
Gwnewch yn siŵr bod eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer a'ch cyfrinair wrth law wrth alw.
Cyflwyno Dogfennau
Os oes gennych unrhyw ddogfennau i'w cyflwyno i gefnogi'ch cais, anfonwch nhw i'r cyfeiriad canlynol.
Cofiwch gynnwys y manylion isod pan fyddwch chi'n cyflwyno dogfennau trwy'r post i osgoi oedi wrth baru'ch dogfennau â'ch cofnod;
- Enw llawn
- Rhif Cyfeirnod Cwsmer
- Cyfeiriad (cartref)
Cyllid Myfyrwyr Cymru
Blwch post 211,
Cyffordd Llandudno,
LL30 9FU
Ffôn: 0300 200 4050
Mae modd ichi ddod o hyd i Gyllid Myfyrwyr Cymru ar Facebook a Twitter.