Mae'r gyfraith yn mynnu bod gan bob awdurdod lleol grŵp sy'n monitro ac yn cynghori ar addysg grefyddol. Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) sy wedi cyflawni’r swyddogaeth yma yn y gorffennol. Fodd bynnag, bydd yn cael ei ddisodli gan y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) i oruchwylio elfen CGM y Cwricwlwm newydd i Gymru sy’n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd ledled Cymru.
Mae'r ddau grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o enwadau Cristnogol ac enwadau crefyddol/credau eraill, cymdeithasau athrawon, a chynrychiolwyr o'r awdurdod lleol.
Caiff prosesau sefydlu, aelodaeth a gweithgaredd y grwpiau yma'u rheoleiddio o dan Ddeddfau Addysg 1944, 1993, Deddf Diwygio Addysg 1988 a Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Gweld yr adroddiad diweddaraf ar weithgarwch CYSAG Rhondda Cynon Taf
Does dim adroddiad ar gael ar gyfer CYS ar hyn o bryd, ond bydd adroddiadau ar gael yma yn y dyfodol.
Cynhadledd Maes Llafur Cytûn Rhondda Cynon Taf ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Mae aelodau wedi adolygu'r maes llafur cytûn ar gyfer Addysg Grefyddol (AG) a bydd y trefniadau ar gyfer y 'Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg' (CGM) newydd yn cael eu gweithredu ym mis Medi 2022 yn rhan o'r Cwricwlwm ehangach i Gymru. Mae rhai ysgolion wedi dewis dechrau ym mis Medi 2023.
Gweld yr adolygiad o Faes Llafur Cytûn Rhondda Cynon Taf
Mae'r grŵp hefyd wedi casglu nifer o adnoddau at ei gilydd a allai fod o gymorth i addysgwyr a chynllunwyr y cwricwlwm. Gweler Deunydd Ategol. Bydd y dudalen yma'n cael ei hadolygu’n rheolaidd, ac mae’r grŵp yn hapus i gymryd argymhellion trwy’r cyfeiriad e-bost isod.
Am arweiniad pellach ar Faes Llafur Cytûn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'r Cwricwlwm CGM, ebostiwch glerc y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS): eirwen.davies@rctcbc.gov.uk.
Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb
Mae Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae atebion i gwestiynau cyffredin ar gael yma