O flwyddyn academaidd 2027-2028, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, weithredu cynllun derbyn i ysgolion cydlynol ar gyfer ceisiadau dosbarth derbyn a blwyddyn 7. Bwriad y broses newydd yw symleiddio'r broses o gyflwyno cais am le mewn ysgol, gan helpu i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn un cynnig ysgol. Mae modd i rieni gyflwyno cais ar-lein gan ddefnyddio un ffurflen gais lle bydd gofyn iddyn nhw nodi hyd at dair ysgol, gan gynnwys ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sy'n rhan o'r cynllun.
Bwriad cynlluniau cydlynol yw symleiddio'r broses dderbyn i rieni/gwarcheidwaid wrth leihau'r tebygolrwydd y bydd unrhyw blentyn yn cael ei adael heb le yn yr ysgol. Mae cydlynu yn sefydlu meca nwaith sy'n sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bod pob rhiant/gwarcheidwad plentyn sy'n byw mewn ardal awdurdod lleol, sy'n cyflwyno cais o fewn y rownd derbyniadau arferol, yn cael un cynnig, ac un cynnig yn unig, o le mewn ysgol gan ei awdurdod lleol.
Bydd yr awdurdod lleol yn cydlynu trefniadau derbyn ar gyfer ceisiadau yn y rowndiau derbyn arferol, hynny yw, y Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7. Nid yw'r trefniadau derbyn cydlynol yn berthnasol i geisiadau am leoedd meithrin, lleoedd chweched dosbarth, na lleoedd mewn ysgolion arbennig a gynhelir.
Nid yw'r trefniadau derbyn ysgolion cydlynol yn berthnasol i geisiadau derbyn/trosglwyddo yn ystod y flwyddyn ysgol. Mae'r trefniadau derbyn ysgolion cydlynol ar gyfer y Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 yn cynnwys pob ysgol Gymunedol a'r ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir canlynol:
- Ysgol Gynradd Aberdâr yr Eglwys yng Nghymru;
- Ysgol Gynradd Cwm-bach yr Eglwys yng Nghymru;
- Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain;
- Ysgol Gynradd Mihangel Sant Eglwys Gatholig Rhufain;
- Ysgol Gynradd y Santes Fererid Eglwys Gatholig Rhufain;
- Ysgol y Forwyn Fair Eglwys Gatholig Rhufain;
- Ysgol Gyfun y Cardinal Newman Eglwys Gatholig Rhufain;
- Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru.
Bydd angen i rieni lenwi ‘Ffurflen Gais Gyffredin’ ar-lein ac mae hawl iddyn nhw fynegi hyd at dri dewis ar gyfer ysgolion cymunedol ac/neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Mae modd i rieni/gwarcheidwaid lenwi'r ffurflen gais berthnasol ar-lein yn https://oneonline.rctcbc.gov.uk
Efallai y bydd angen i rieni sy'n gwneud cais i anfon eu plentyn i ysgol wirfoddol a gynorthwyir lenwi ffurflen gais atodol ar gyfer yr ysgol unigol a darparu tystysgrif bedydd. Os yw'r ysgol yn dymuno gweithredu'r ffurflen yma bydden nhw'n cysylltu â'r rhiant yn uniongyrchol ynglŷn â hyn. Bydd rhieni/gwarcheidwaid sy'n cyflwyno cais erbyn yr amser a'r dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer y rownd derbyn yn cael gwybod gan yr awdurdod lleol, yn ysgrifenedig, am ganlyniad eu cais.
Mae modd cael ffurflenni ceisiadau hwyr gan garfan derbyn disgyblion.
Amserlen ar gyfer Derbyniadau I’r Dosbarth Derbyna r gyfer mis Medi 2027
| Cam Gweithredu | Dyddiad: |
|
Dyddiad agor ar gyfer cyflwyno ceisiadau.
|
1 Medi 2026
|
|
Dyddiad cau ar gyfer derbyn apeliadau
|
6 Tachwedd 2026
|
|
Hysbysiad i'w anfon gan yr awdurdod lleol at ymgeiswyr ynghylch cynnig neu wrthod lleoedd (hynny yw, y 'dyddiad cynnig').
|
16 Ebrill 2027
|
Amserlen ar gyfer Derbyniadau I ysgolion uwchradd (Blwyddyn 7) ar gyfer mis Medi 2027
| Cam Gweithredu | Dyddiad |
|
Dyddiad agor ar gyfer cyflwyno ceisiadau.
|
1 Medi 2026
|
|
Dyddiad cau ar gyfer derbyn apeliadau.
|
9 Hydref 2026
|
|
Hysbysiad i'w anfon gan yr awdurdod lleol at ymgeiswyr ynghylch cynnig neu wrthod lleoedd (hynny yw, y 'dyddiad cynnig').
|
1 Mawrth 2027
|