Skip to main content

Rôl Llywodraethwr Ysgol

Gwneud gwahaniaeth a bod yn Llywodraethwr Ysgol yn Rhondda Cynon Taf. 

Mae bod yn llywodraethwr ysgol yn eich galluogi chi i wella’ch ysgol. Drwy wneud hyn, bydd modd i chi wneud gwahaniaeth i fywydau plant a'u dyfodol.  Dyma'r hyn sy'n sbarduno'r rhan fwyaf o lywodraethwyr i gyfrannu, ond mae manteision eraill i'w cael hefyd. 

Manteision bod yn Llywodraethwr

  • Cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a chwblhau hyfforddiant am ddim sy’n ymwneud ag agweddau amrywiol o'ch rôl yn llywodraethwr ysgol. Caiff yr hyfforddiant yma ei ddarparu gan Rondda Cynon Taf a Chonsortiwm Canolbarth y De
  • Gwybod eich bod chi wedi chwarae rhan bwysig mewn gwella addysg plant a chefnogi staff yr ysgol
  • Cyfle i weithio yn rhan o dîm
  • Cyfle i deimlo cyflawniad a bod yn rhan weithredol o'r gymuned
  • Cyfle i wella eich sgiliau trafod, holi, datrys problemau, rheoli amser a sgiliau ariannol

Pa fathau o Lywodraethwyr sydd?

  • Llywodraethwyr Cymunedol - Caiff y rhain eu penodi gan y Corff Llywodraethu i gynrychioli’r gymuned. Maen nhw'n byw neu'n gweithio yn y gymuned sy'n ddalgylch i'r ysgol.
  • Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol - Caiff y Llywodraethwyr hyn eu penodi gan yr Awdurdod Lleol.
  • Llywodraethwyr sy'n rhieni - Caiff y rhain eu dewis drwy bleidlais i fod ar y Corff Llywodraethu gan rieni eraill. Fel arfer, maen nhw'n rhieni i blant sy'n mynychu'r ysgol dan sylw.
  • Llywodraethwyr sy'n Athrawon a Staff - Caiff y rhain eu hethol gan aelodau o staff perthnasol o fewn yr ysgol.
  • Llywodraethwyr y Sefydliad - Caiff y rhain eu penodi gan sefydliad yr ysgol i gynrychioli eu buddiannau.
  • Awdurdod Llai - Mewn rhai ardaloedd lle mae Awdurdodau Llai yn bodoli, caiff aelod arall ei gynrychioli ar y Corff Llywodraethu.
  • Aelod Consortiwm Ysgolion Uwchradd ac Addysg Bellach – mae modd i  lywodraethwr hefyd fod yn aelod o'r uchod.

Sut ydyn ni'n cefnogi llywodraethwyr ysgol?

Mae Rhondda Cynon Taf yn cynnig cymorth drwy'r Garfan Cymorth i Lywodraethwyr.  Mae'r Garfan Cymorth i Lywodraethwyr yn cynnig gwasanaeth clercio i Ysgolion Cynradd ac Ysgolion Arbennig.  Mae'r garfan brofiadol hon yn rhoi cyngor a chymorth o safon uchel i gyrff llywodraethu Rhondda Cynon Taf, ynghyd â rhaglen hyfforddi gynhwysfawr. 

Mae tymor llywodraethwr yn para 4 blynedd.  Bydd disgwyl i chi fynychu 3 chyfarfod o'r Corff Llywodraethu bob blwyddyn, sef un y tymor. 

Gwneud cais i fod yn Llywodraethwr

Gweld y swyddi gwag a gwneud cais ar-lein!

Hyfforddiant i Lywodraethwyr

Bydd rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar gael i gynorthwyo Llywodraethwyr i gyflawni'u rolau. 

Gweld  y cyrsiau hyfforddi  sydd ar gael i Lywodraethwyr ar gyfer Tymor yr Hydref.