Skip to main content

Arian Cinio Ysgol – Gwneud Taliad (iPayimpact)

Mae system iPayimpact yn cael ei chyflwyno fel ffordd gyflym a diogel o reoli a thalu am brydau ysgol trwy un AP hawdd ei ddefnyddio.


Erbyn hyn, mae modd i'r ysgolion canlynol ddefnyddio'r ap.

  • Ysgol Gyfun Rhydywaun
  • Ysgol Gyfun y Pant
  • Ysgol Gymuned y Porth
  • Ysgol Gyfun Cwm Rhondda

Pob ysgol arall yn RhCT -parhewch i ddefnyddio'r system dalu ar-lein bresennol.


Ap iPayimpact – System Dalu newydd ar gyfer Cinio Ysgol

Mae ap iPayimpact yn rhoi gwybodaeth glir a nodweddion defnyddiol i rieni a gwarcheidwaid, gan gynnwys:

  • Y gallu i weld balans cinio ysgol eich plentyn ar yr adeg honno.
  • Hanes y prydau ysgol mae'ch plentyn wedi'u prynu.

Pan fyddwch chi'n derbyn manylion mewngofnodi gan yr ysgol, bydd modd cofrestru trwy ap iPayimpact neu ar wefan www.ipayimpact.co.uk

Mae modd i chi gofrestru ar ap iPayimpact neu ar y wefan:

www.ipayimpact.co.uk

Lawrlwythwch yr ap o Apple APP Store

Lawrlwythwch yr ap o Google Play Store