Deddf Cydraddoldeb (2010) ac Ysgolion
Mae'n ofynnol i'r Cyngor, a'i holl ysgolion, gyflawni ei ymrwymiad i gydraddoldeb a bod yn atebol am y ffordd y mae'n cyflawni'r rhwymedigaethau cyfreithiol sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n ofynnol i ysgolion baratoi a chyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol gydag amcanion cydraddoldeb pwrpasol unwaith bob pedair blynedd. Mae hefyd gofyn ar ysgolion i gyhoeddi gwybodaeth yn dangos sut maen nhw'n cydymffurfio â Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2011. Mae’r gofyniad i gael cynllun pedair blynedd yn ei le wedi bod ar waith ers 2012.
Beth yw gofynion y Ddeddf Cydraddoldeb a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED)?
Unodd Deddf Cydraddoldeb 2010 gyfreithiau gwrth-gwahaniaethu, a disodli'r rhai blaenorol, er mwyn creu un Ddeddf. Yna, cyflwynodd ddyletswydd gyffredinol newydd ar y Cyngor i roi sylw dyledus i'r canlynol wrth wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau:
- Dileu gwahaniaethu, aflonyddu, fictimeiddio ac unrhyw ymddygiad arall sy’n cael ei wahardd o dan y Ddeddf;
- Hybu cyfleoedd cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol a phobl sydd ddim yn eu rhannu.
- Hybu perthynas dda rhwng personau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig perthnasol a phobl sydd ddim yn eu rhannu.
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau sy'n gosod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus i gefnogi cyflawniad gwell o'r ddyletswydd gyffredinol. Rydyn ni'n galw'r rhain yn Ddyletswyddau Cydraddoldeb Penodol y Sector Cyhoeddus ac maen nhw'n wahanol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Mae Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn cynnwys gofyniad i awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys Awdurdodau Lleol ac Ysgolion) i wneud y canlynol:
- Llunio a chyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol bob 4 blynedd sy'n cynnwys amcanion cydraddoldeb a gwybodaeth am y broses ymgysylltu a gafodd ei chynnal er mwyn pennu'r amcanion yma.
- Cyhoeddi gwybodaeth yn flynyddol i ddangos sut mae'r ysgol yn cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Dylai Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol cyfredol pob ysgol nodi'n glir sut maen nhw wedi cyflawni'u cyfrifoldebau cyfreithiol wrth ddatblygu'r Cynllun. Dylen nhw hefyd gynnwys amcanion cydraddoldeb penodol pob lleoliad am gyfnod o bedair blynedd. Yn ogystal â hynny, dylen nhw gynnwys manylion am sut y cafodd yr amcanion cydraddoldeb eu pennu, dulliau ymgysylltu a'r canlyniadau, ynghyd â chynllun gweithredu sy'n nodi sut bydd yr amcanion yn cael eu cyflawni.
Mae hawl gan ysgolion i osod cynifer o amcanion ag y mae’n credu sy’n briodol i’w maint a’u cyd-destun. Dylai'r amcanion adlewyrchu anghenion unigryw'r ysgol a dylen nhw fod yn gyraeddadwy. Dydy hi ddim yn ofynnol i ysgolion ysgrifennu amcanion ar gyfer pob nodwedd warchodedig fel maen nhw'n cael eu diffinio yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Serch hynny, mae rhaid i bob ysgol unigol gyflawni camau gweithredu yn erbyn amcanion cydraddoldeb cytûn, a monitro ei chynnydd wrth eu cyflawni.
Dylai'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol gynnwys ymrwymiad i fonitro cyflawniad y Cynllun, a dylid adrodd nôl ar y cynnydd yn flynyddol i'r corff llywodraethu.
Pe hoffech chi ragor o wybodaeth, mae croeso i chi ffonio'r Garfan Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar
01443 444531neu anfonwch e-bost:
cydraddoldeb@rctcbc.gov.uk.