Oes gan eich plentyn oed ysgol cynradd alergedd neu anoddefiad bwyd, neu gyflwr meddygol a fydd yn golygu bydd angen Gofynion dietegol sydd wedi'u rhagnodi'n feddygol
Os felly, mae gan y Gwasanaethau Arlwyo gyfleuster ar-lein lle mae modd gofyn am ddiet a ragnodwyd yn feddygol
Os oes rhaid i chi gofrestru gofynion dietegol eich plentyn sydd wedi'u rhagnodi'n feddygol, yna ewch ati i gwblhau'r Ffurflen isod. Bydd gofyn i chi lanlwytho tystiolaeth feddygol gan ymarferydd meddygol cofrestredig neu ddietegydd, yn cadarnhau gofyniad/gofynion dietegol y plentyn.
Cofrestrwch eich plentyn fel un sydd â gofyniad dietegol ar bresgripsiwn meddygol
Ysgol Uwchradd
Mae arlwyo yn yr ysgol uwchradd yn gweithredu ar raddfa llawer mwy nag yn yr ysgolion cynradd, ac mae dewis ehangach o fwyd yn cael ei gynnig. Dydy hi ddim yn ymarferol gweithredu'r un gweithdrefnau â'r rhai sy'n cael eu gweithredu mewn lleoliadau ysgolion cynradd.
Efallai bydd angen cyngor ar rai disgyblion yn ymwneud â'r bwyd y mae modd ei fwyta. Dylai plant drafod eu hanghenion gyda'r staff arlwyo sy'n gallu gwirio'r pecynnau a'r cynhwysion am alergenau (mewn prydau cyfansawdd). Mae modd i'r staff roi cyngor neu gyfyngiadau ar arferion trin bwyd, gan fod modd i'r rhain effeithio ar addasrwydd y cynnyrch.
Mewn achosion cymhleth ble bydd angen gweithredu mesurau ychwanegol, mae modd trafod y rhain gyda'r Swyddog Cymorth Arlwyo. Bydd cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu.
Nodwch, mae'r Gwasanaethau Arlwyo yn caffael bwyd sydd ddim yn cynnwys cnau ar y rhestr cynhwysion. Serch hynny, hyd yn oed gyda mesurau rheoli croeshalogi rhagweithiol ar waith, mae prosesau trin niferus yn y gadwyn gyflenwi yn golygu bod potensial i olion cynhwysion fod yn bresennol o hyd.
Does dim modd i ni reoli'r bwyd y mae cwsmeriaid eraill yn dod ag ef i'r ardal giniawa.