Yn rhan o'r prosiect mae adeilad ysgol newydd wedi cael ei ddarparu, gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf, sy'n cymryd lle'r adeiladau hŷn oedd yno o’r blaen.
Cafodd y prosiect ei ariannu gan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef ffrwd cyllid refeniw Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref oedd yr ysgol gyntaf i gael ei darparu yn rhan o'r rhaglen yma, a hynny pan agorwyd yr ysgol newydd sbon ar 24 Ebrill, 2024.
Mae'r buddsoddiad wedi darparu adeilad unllawr newydd, sy'n gweithredu ar sail Carbon Sero Net ac sydd â lle i 240 o ddisgyblion a 30 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin. Mae'n darparu amgylchedd dysgu bywiog yr 21ain Ganrif ar gyfer staff a disgyblion, a bydd rhai cyfleusterau hefyd ar gael i'r gymuned ehangach eu defnyddio.
Adeilad o'r radd flaenaf ar gyfer Ysgol Gynradd Pentre'r Eglwys (Ebrill 2024)
Yn allanol, mae’r datblygiad yn cynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd â dau gwrt, cae chwarae newydd a maes parcio. Dechreuodd y gwaith i gyflawni'r rhain ym mis Ebrill 2024 yn rhan o ail gam y datblygiad, a hynny ar ôl agor adeilad newydd yr ysgol. Cafodd y cyfleusterau allanol eu darparu yn ôl yr amserlen ym mis Hydref 2024 er mwyn i ddisgyblion a staff eu mwynhau.
Buddsoddiad yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref bellach wedi'i gwblhau (Hydref 2024)