Mae'r buddsoddiad sylweddol yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ym Mhentre'r Eglwys bellach wedi'i ddarparu yn ei gyfanrwydd, gyda gwelliannau i'r holl ardaloedd awyr agored wedi'u cwblhau. Mae hyn yn cyd-fynd â’r prif adeilad newydd gafodd ei agor yn gynharach eleni.
Mae disgyblion a staff wedi bod yn mwynhau eu hadeilad newydd o'r radd flaenaf ers mis Ebrill 2024, wedi iddo gael ei ddarparu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru mewn buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd. Mae'r adeilad un llawr yn cynnwys cyfleusterau modern ac ystafelloedd dosbarth ar gyfer y dosbarthiadau meithrin a derbyn, tair ystafell ddosbarth ar gyfer yr adran fabanod a phedair ystafell ddosbarth ar gyfer yr adran iau, yn ogystal â nifer o ystafelloedd ategol.
Ers agor yr adeilad newydd, mae'r contractwr, Morgan Sindall, wedi troi ei sylw at ail gam y cynllun gwaith - dymchwel hen adeilad yr ysgol a datblygu ardaloedd awyr agored y safle i’r ysgol eu defnyddio yn y dyfodol. Cafodd y rhaglen yma ei chwblhau yn unol â'r amserlen erbyn dydd Gwener, 18 Hydref.
Mae Ardal Gemau Aml-ddefnydd sy’n cynnwys dau gwrt wedi'i darparu, yn ogystal â chaeau chwarae sy'n cynnwys cae pêl-droed a thrac rhedeg, a maes parcio newydd gyda mannau gwefru cerbydau trydan. Mae ardaloedd awyr agored eraill sydd wedi'u cwblhau wedi darparu meysydd chwarae â gwair ychwanegol ac offer chwarae pren ar gyfer y disgyblion.
Mae'r cyfleusterau newydd yma yn cyd-fynd â'r ardaloedd awyr agored a gafodd eu cwblhau pan agorodd y prif adeilad ym mis Ebrill - gan gynnwys plaza wrth y fynedfa gyda chyfleuster storio beiciau dan do, dosbarth awyr agored a meysydd chwarae â llawr caled wedi'u tirlunio.
Pan agorodd adeilad newydd yr ysgol ym mis Ebrill, roedd y buddsoddiad yma yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref yn cynrychioli'r ysgol newydd gyntaf yng Nghymru i gael ei darparu yn rhan o Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru - ffrwd gyllido refeniw'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Mae'r ardaloedd awyr agored ardderchog yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref bellach wedi'u cwblhau, gan ddod â cham adeiladu'r buddsoddiad gwych yma mewn cyfleusterau addysg fydd ar gael i gymuned Pentre'r Eglwys am genedlaethau i ddod i ben. Mae disgyblion a staff wedi bod yn mwynhau adeilad ysgol o’r radd flaenaf ers sawl mis, ac mae bellach yn cyd-fynd â chyfleusterau awyr agored rhagorol fydd yn helpu'r ysgol i ddarparu'r Cwricwlwm i Gymru.
"Mae ein hanes cryf o ran darparu cyfleusterau ysgol newydd ledled y Fwrdeistref Sirol, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi parhau dros y misoedd diwethaf. Cafodd ysgolion newydd sbon eu cwblhau yng Nghilfynydd, y Ddraenen-wen a Rhydfelen, a hynny’n rhan o fuddsoddiad gwerth £79.9 miliwn yn ardal ehangach Pontypridd - wrth i Ysgol Bro Taf, Ysgol Afon Wen ac Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf agor cyn dechrau blwyddyn academaidd 2024/25. Maen nhw'n dilyn buddsoddiad sylweddol yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog yn ardal Beddau, gafodd ei gwblhau yn gynharach eleni.
"Yn y cyfamser, derbyniodd Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi yn Llantrisant ei hadeilad newydd sbon gafodd ei gwblhau yn unol â rhaglen fuddsoddi'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol ym mis Gorffennaf 2024. Mae cynllun tebyg ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn mynd rhagddo er mwyn ei gwblhau yng ngwanwyn 2025. Yn olaf, bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yn ardal Glynrhedynog hefyd yn derbyn ysgol newydd sbon yn ddiweddarach eleni, gyda'r gwaith yn mynd rhagddo yn dda.
"Mae'r buddsoddiad ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref wedi'i anelu at wella deilliannau addysg a helpu pobl ifainc i fwynhau eu haddysg. Mae dysgu a chwarae yn yr awyr agored yn agweddau pwysig ar y diwrnod ysgol, ac rwy'n falch bod bellach modd i'r disgyblion fwynhau’r ardaloedd awyr agored. Mae'n wych bod mwy a mwy o ddisgyblion ledled Rhondda Cynon Taf yn elwa ar gyfleusterau’r 21ain Ganrif - a byddwn ni'n parhau i chwilio am gyfleoedd newydd i sicrhau buddsoddiad pellach mewn rhagor o gymunedau, pan fyddan nhw'n dod i'r amlwg yn y dyfodol."
Er mwyn cyd-fynd â’r buddsoddiad yn yr ysgol, mae arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru hefyd wedi cael ei ddefnyddio gan garfan Priffyrdd y Cyngor i gyflawni gwaith Llwybrau Diogel yn y Gymuned yn lleol. Mae gwelliannau amrywiol wedi'u cwblhau ar gyffyrdd a llwybrau i gerddwyr sy'n boblogaidd ymhlith teuluoedd sy'n teithio i Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, er mwyn annog cerdded a beicio diogel i'r ysgol.
Wedi ei bostio ar 25/10/2024