Cafodd yr ysgol newydd yng Nghilfynydd ar gyfer disgyblion oedran 3-16 ei chwblhau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Bu i'w drysau gael eu hagor i ddisgyblion a staff am y tro cyntaf ym mis Medi 2024. Cafodd y gwaith ei gyflawni yn sgil buddsoddiad gwerth £79.9miliwn yn y maes cyfleusterau Addysg, yn rhan o bedwar prif brosiect ledled ardal ehangach Pontypridd
Mae Ysgol Bro Taf wedi'i hadeiladu ar safle Ysgol Uwchradd Pontypridd. Cafodd y disgyblion oedd yn arfer mynychu Ysgol Uwchradd Pontypridd eu croesawu yn yr ysgol newydd, ynghyd â’r disgyblion oedd yn arfer mynychu Ysgol Gynradd Cilfynydd. Mae lle yn yr ysgol newydd ar gyfer 1,200 disgybl 3-16 oed (gan gynnwys disgyblion y dosbarth meithrin).
Tair ysgol newydd sbon yn barod i agor eu drysau ledled ardal ehangach Pontypridd (Medi 2024)
Yn sgil y datblygiad mae ardal newydd wedi'i chreu ar gyfer disgyblion oedran cynradd. Yn yr ardal yma mae cyfleusterau ystafell ddosbarth newydd sy'n sicrhau Carbon Sero Net pan fyddan nhw'n weithredol.
Yn rhan o'r gwaith ailwampio ac ailfodelu ardaloedd mewnol, sylweddol, yma, mae disgyblion uwchradd wedi cael budd o'r ardaloedd ar eu newydd wedd hefyd – gan gynnwys ystafelloedd newydd ar gyfer gwyddoniaeth, dylunio a thechnoleg, technoleg bwyd, celf, drama, cerddoriaeth a TGCh, yn ogystal ag ystafelloedd cyffredinol newydd ar gyfer dysgu, ardaloedd ategol a llyfrgell.
Yn rhan o'r gwaith y tu allan, mae'r maes parcio wedi'i ail-fodelu, pwyntiau gwefru cerbydau trydan (EV) wedi'u gosod, ac arhosfan ar gyfer 12 bws, ac ardal danfon plant, wedi'u creu. Yn yr ysgol mae maes chwaraeon pob tywydd 3G ac Ardal Gemau Aml-ddefnydd. Bydd y cyfleusterau chwaraeon yma ar eu newydd wedd ar gael i'r ysgol a'r gymuned eu defnyddio.
Lluniau o'r prosiect wedi'i gwblhau – Medi 2024: