Bydd cannoedd o ddisgyblion yn y Ddraenen-wen, Cilfynydd a Rhydfelen yn dychwelyd ar ôl gwyliau'r haf i gyfleusterau addysg newydd sbon o'r radd flaenaf sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif - wrth i'r Cyngor a Llywodraeth Cymru ddarparu buddsoddiad sylweddol gwerth £79.9 miliwn fydd yn gwasanaethu ein cymunedau am genedlaethau.
Mae dechrau blwyddyn academaidd 2024/25 yn nodi dechrau cyffrous newydd wrth i Ysgol Afon Wen, Ysgol Bro Taf ac Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf agor eu drysau. Mae'r ysgolion newydd wedi elwa ar fuddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd mewn cyfleusterau ysgol a chymunedol newydd sbon. Mae'r rhain wedi'u darparu mewn partneriaeth â'r Cyngor a Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Cliciwch yma i weld fersiwn fawr o'r llun uchod
Mae wedi bod yn haf prysur iawn ledled safleoedd y tair ysgol, wrth i gontractwyr y Cyngor orffen manylion olaf y datblygiadau - er mwyn iddyn nhw fod yn barod i groesawu staff a disgyblion ddechrau mis Medi.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Bydd Ysgol Afon Wen, Ysgol Bro Taf ac Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf yn agor eu drysau am y tro cyntaf yr wythnos yma gan groesawu disgyblion a staff i'w hamgylcheddau dysgu newydd hyfryd. Mae'r adeiladau modern, llachar wedi cymryd lle'r hen gyfleusterau gan ddarparu cyfleusterau ardderchog fydd yn cynnig cyfleoedd newydd i ddisgyblion y Ddraenen-wen, Cilfynydd a Rhydfelen yn eu haddysg bob dydd.
"Mae'r tri phrosiect wedi cael eu darparu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn rhan o raglen gwerth £79.9 miliwn - gan fuddsoddi yn ein hysgolion a sefydlu hybiau lleol ar gyfer y dyfodol. Mae ein pobl ifainc, staff ysgolion a chymunedau yn haeddu’r cyfleusterau yma. Cafodd pedwerydd prosiect ei ddarparu yn rhan o'r buddsoddiad yma, gydag Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn ardal Beddau wedi derbyn cyfleusterau ysgol, chweched dosbarth a chwaraeon newydd yn barod.
"Mae gyda ni brofiad helaeth o ddarparu buddsoddiadau addysg gyda Llywodraeth Cymru - gan gwblhau buddsoddiad tebyg mewn sawl ysgol ledled Cwm Rhondda rhwng 2018 a 2020, yn ogystal â phrosiectau mwy diweddar yn Ysgol Gynradd Hirwaun, Ysgol Rhydywaun ac Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr. Fe wnaethon ni gwblhau adeiladau ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi yn gynharach yn 2024, gyda phrosiectau tebyg wedi'u cynllunio ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn dros y misoedd nesaf.
"Bydd agoriad swyddogol Ysgol Afon Wen, Ysgol Bro Taf ac Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf yn uchafbwynt sawl blwyddyn o waith caled gan nifer o bobl. Hoffwn i ddiolch i bob un o'r ysgolion, eu staff a'u disgyblion, yn ogystal â swyddogion y Cyngor a'r contractwyr a benodwyd - daeth pawb ynghyd i wireddu hyn. Hoffwn i ddymuno pob dymuniad gorau i'r tair ysgol newydd wrth iddyn nhw agor ac ar gyfer eu dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â phob ysgol yn fuan, ar ôl i’r disgyblion a'r staff ymgartrefu yn eu hamgylchedd newydd."
Mae crynodeb o'r buddsoddiadau wedi'i gynnwys isod ar gyfer y tair ysgol, fydd yn agor eu drysau am y tro cyntaf ddechrau mis Medi 2024.
Ysgol Afon Wen, y Ddraenen-wen
Mae'r ysgol newydd wedi'i hadeiladu ar safle'r ysgol bresennol yn y Ddraenen-wen a bydd yn croesawu holl ddisgyblion presennol Ysgol Uwchradd y Ddraenen-wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen-wen, yn ogystal â disgyblion ffrwd Saesneg Ysgol Gynradd Heol y Celyn. Mae gyda'r ysgol pob oed newydd i ddisgyblion 3-16 oed le ar gyfer 1,260 o ddisgyblion (gan gynnwys disgyblion meithrin).
Mae'r datblygiad wedi darparu adeilad addysgu newydd sbon sy'n cynnwys 28 o ystafelloedd dosbarth ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2-4, sydd wedi'i gysylltu'n ddiogel ag adeilad presennol yr ysgol gynradd. Mae'r adeilad newydd wedi'i ddylunio’n adeilad Carbon Sero Net, ac yn ategu'r cyfleusterau allanol gafodd eu darparu'r llynedd yn ystod cam gwaith cychwynnol. Roedd hyn yn cynnwys maes parcio i staff, maes parcio bysiau a man gollwng disgyblion newydd.
Mae rhai o'r cyfleusterau gafodd eu cadw wedi'u hadnewyddu - gan gynnwys dwy ystafell wyddoniaeth a nifer o doiledau i ddisgyblion, gyda gwelliannau wedi'u cynnal yn yr ardaloedd allanol, gan gynnwys gosod canopïau dysgu awyr agored yn yr ysgol gynradd. Mae toiledau wedi cael eu hadnewyddu ym mhob rhan o'r ysgol isaf ac mae'r goleuadau a system wresogi wedi cael eu gwella. Mae cyllid sylweddol gwerth £1 miliwn wedi'i sicrhau trwy raglen Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru er mwyn adnewyddu canolfan ieuenctid ar y safle. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn 2025.
Bydd gwaith dymchwel hen adeilad yr ysgol uwchradd yn dechrau nawr, er mwyn cynnal gwaith tirlunio sylweddol ledled safle'r datblygiad. Bydd y gwaith yma'n cael ei gwblhau yn ystod Gwanwyn 2025. Bydd cyfleuster gofal plant newydd yn cynnig lleoedd Dechrau'n Deg a'r Cynnig Gofal Plant yn cael ei greu gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru. Bydd y cyfleuster yma'n agor ddechrau 2025.
Ysgol Bro Taf - Cilfynydd
Mae'r ysgol newydd wedi'i hadeiladu ar safle presennol Ysgol Uwchradd Pontypridd yng Nghilfynydd. Bydd Ysgol Bro Taf yn croesawu disgyblion presennol yr ysgol uwchradd yn ogystal â disgyblion fyddai wedi mynychu Ysgol Gynradd Cilfynydd yn flaenorol. Mae gyda'r ysgol pob oed newydd i ddisgyblion 3-16 oed le ar gyfer 1,200 o ddisgyblion (gan gynnwys disgyblion meithrin).
Mae'r datblygiad newydd wedi darparu ardal newydd ar gyfer disgyblion cynradd, sy'n cynnwys cyfleusterau dosbarth modern sydd wedi'u dylunio i fod yn rhai Carbon Sero Net. Yn rhan o'r gwaith adnewyddu ac ailwampio mewnol sylweddol, bydd disgyblion uwchradd yn elwa hefyd ar gyfleusterau gwell gan gynnwys dosbarthiadau gwyddoniaeth, dylunio a thechnoleg, technoleg bwyd, celf, drama, cerddoriaeth a ThGCh newydd, yn ogystal â dosbarthiadau cyffredinol, ystafelloedd ategol a llyfrgell.
Mae'r gwaith allanol wedi cynnwys ailfodelu'r maes parcio, gosod mannau gwefru cerbydau trydan, darparu cilfachau ar gyfer 12 bws a sefydlu man gollwng newydd. Derbyniodd yr ysgol gae chwaraeon 3G sy'n addas ym mhob tywydd ym mis Mehefin 2024, ac mae’r datblygiad hefyd yn cynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd. Bydd modd i'r ysgol a'r gymuned ddefnyddio'r cyfleusterau chwaraeon gwell.
Bydd y datblygiad wedi'i gwblhau erbyn agor yr ysgol ym mis Medi 2024.
Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf - Rhydfelen
Bydd yr ysgol Gymraeg newydd yn croesawu disgyblion ffrwd Gymraeg Ysgol Gynradd Heol y Celyn, yn ogystal â holl ddisgyblion presennol Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton. Bydd gyda'r ysgol newydd le i 540 o ddisgyblion, sy'n cynnwys 480 o ddisgyblion o oedran ysgol statudol a 60 o leoedd meithrin.
Bydd y disgyblion yn defnyddio'r adeilad modern a gafodd ei gwblhau ar safle Ysgol Gynradd Heol y Celyn yn ystod yr haf y llynedd. Mae'r adeilad deulawr trawiadol wedi'i ddylunio’n adeilad Carbon Sero Net ac mae’n cynnwys 18 o ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd aml-ddefnydd, ardaloedd a rennir, ystafelloedd newid, neuadd, cegin ac ystafelloedd ategol. Mae Ardal Gemau Aml-ddefnydd ac ardaloedd awyr agored gwell wedi'u darparu hefyd.
Mae ail gam y prosiect wedi bod yn parhau dros y misoedd diwethaf a bydd y rhan fwyaf o'r gwaith wedi'i gwblhau erbyn mis Medi. Mae hyn wedi cynnwys gwaith dymchwel hen adeiladau'r ysgol gan ddarparu cilfachau bysiau newydd, man gollwng, maes parcio i staff gyda mannau gwefru cerbydau trydan, man parcio beiciau, cae chwaraeon, ardaloedd chwarae awyr agored, ystafell ddosbarth awyr agored ac ardal gynefin. Mae ystafell bwrpasol yn yr ysgol ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned leol.
Bydd y rhan fwyaf o waith y datblygiad wedi’i gwblhau erbyn i'r ysgol agor ei drysau ym mis Medi 2024. Fydd dim gwaith sylweddol yn weddill.
Wedi ei bostio ar 02/09/2024