Cafodd Ysgol Gynradd Williamstown ei hagor ar safle newydd ym Mhenriw-fer yn 2011, er mwyn cymryd lle cyfleusterau'r hen ysgol, oedd wedi dyddio.
Cymerodd yr ysgol newydd sbon le'r hen ysgol, ac mae'n cynnwys 12 dosbarth, mannau chwarae, cae chwarae newydd ac uned anghenion addysgol arbennig bwrpasol. Cafodd cyfleusterau'r gymuned eu hintegreiddio'n llawn. Mae'r ysgol yn cynnwys cyfleusterau newid i'r gymuned sydd â mynediad uniongyrchol i gae pêl-droed newydd a maes parcio.
Hoffech chi ragor o wybodaeth am y prosiect yma? Anfonwch ebost i Garfan Ysgolion yr 21ain Ganrif