Ym mis Medi 2024 cafodd staff a disgyblion eu croesawu yn yr ysgol gynradd Cyfrwng Cymraeg yma yn Rhydfelen am y tro cyntaf. Cafodd yr ysgol, sydd o'r radd flaenaf ac ynddi gyfleusterau modern, ei chreu yn rhan o fuddsoddiad £79.9 miliwn yn y maes Addysg ledled ardal ehangach Pontypridd
Cafodd adeilad newydd yr ysgol ei gwblhau erbyn mis Medi 2023 yn rhan o gam 1
Cafodd disgyblion o Ffrwd Iaith Gymraeg ysgol Gynradd Heol y Celyn gynt a disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton eu croesawu yn yr ysgol yma. Mae lle yn yr ysgol ar gyfer 540 disgybl; 480 disgybl oedran statudol a 60 lle yn y dosbarth meithrin.
Tair ysgol newydd sbon yn barod i agor eu drysau ledled ardal ehangach Pontypridd (Medi 2024)
Cafodd y gwaith adeiladu ar y prif adeilad newydd ar safle Ysgol Gynradd Heol y Celyn ei gwblhau yn haf 2023. Mae'r adeilad dau lawr trawiadol wedi'i ddylunio i sicrhau Carbon Sero Net ar yr adegau pan fydd yn weithredol. Mae ynddo 18 ystafell ddosbarth, ystafelleodd aml-ddefnydd, ardaloedd i'w rhannu, ystafelloedd newid, neuadd, cegin ac ardaloedd ategol. Mae Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd wedi'i chreu a gwelliannau wedi'u gwneud i ardaloedd tu allan.
Cafodd cynnydd ei wneud ar ail ran y prosiect yn y misoedd yn arwain at fis Medi 2024, yn y cyfnod cyn i'r ysgol newydd gael ei chreu.
Yn ystod ail ran y gwaith, mae hen adeiladau'r ysgol wedi'u dymchwel. Mae hyn wedi gwneud lle ar gyfer arosfannau newydd ar gyfer bysiau, ardaloedd i rieni ddanfon eu plant i'r ysgol, maes parcio ar gyfer staff ac ynddo bwyntiau gwefru cerbydau trydan (EV), ardal ymochel ar gyfer beiciau, maes chwaraeon ac arni laswellt, gwell ardaloedd chwarae y tu allan, ystafell ddosbarth y tu allan, ac ardal gynefin.
Lluniau o'r prosiect wedi'i gwblhau – Medi 2024: