Mae'r ysgol gynradd Gymraeg yng Nglynrhedynog wedi derbyn adeilad newydd sbon ar safle newydd, mewn buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i'r ysgol a'r gymuned.
Mae cyfleuster 21ain ganrif, gan gynnwys Cylch Meithrin gyda 30 o leoedd, wedi'i ddarparu ar gyfer YGG Llyn y Forwyn ar safle hen Ffatri 'Chubb'. Mae'r prosiect wedi darparu cyfleusterau modern o'r radd flaenaf ar gyfer staff, disgyblion a'r gymuned, nad oedden nhw'n bosibl eu darparu ar yr hen safle - yn enwedig mewn perthynas â chyfleoedd dysgu a chwarae yn yr awyr agored.
Disgyblion ysgol yng Nglynrhedynog yn symud i amgylchedd dysgu newydd gwych (Ionawr 2025)
Mae'r datblygiad newydd yn golygu bod darpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn cael ei hymestyn yng Nghwm Rhondda Fach. Bydd yr adeilad yn cynnwys cyfleusterau modern, hyblyg a hygyrch y mae modd i'r gymuned eu defnyddio hefyd.
Mae'r datblygiad yn cynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cae chwaraeon glaswellt, mannau chwarae allanol, maes parcio staff, a maes parcio gollwng / codi. Mae mynediad pwrpasol i'r safle hefyd wedi’i darparu ar gyfer y disgyblion a’r teuluoedd hynny sy’n teithio i'r ysgol ar droed neu ar feic – er mwyn annog Teithio Llesol. Nod yr adeilad newydd yma yw cyflawni Carbon Sero Net ar waith.
Mae’r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd wedi’i ddarparu ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu wedi cyfrannu 65% o gost adeiladu'r ysgol.
Symudodd disgyblion a staff i safle newydd yr ysgol ym mis Ionawr 2025, ar ddechrau tymor y gwanwyn 2024/25.