Am ddechrau da i'r flwyddyn i ddisgyblion a staff Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, wrth iddyn nhw symud i gyfleusterau newydd gwych sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Mae hyn yn dilyn cwblhau buddsoddiad mawr y Cyngor a Llywodraeth Cymru mewn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg ar gyfer Cwm Rhondda Fach.
Roedd dathliadau mawr yn yr ysgol ar ddiwrnod cyntaf y disgyblion nôl ar ôl gwyliau'r Nadolig (ddydd Mercher, 8 Ionawr), a hynny yn dilyn cwblhau'r datblygiad ar hen safle ffatri 'Chubb' ac agor yr adeilad newydd â lle i 270 o ddisgyblion am y tro cyntaf. Bu’r contractwr Wynne Construction yn gweithio drwy gydol cyfnod y Nadolig i sicrhau bod yr adeilad yn agor ar gyfer tymor y gwanwyn.
Doedd dim modd gwella hen safle'r ysgol llawer. Mae'r adeilad newydd wedi'i adeiladu dafliad carreg i ffwrdd mewn lleoliad mwy addas. Mae'n cynnwys Cylch Meithrin â 30 o leoedd, Ardal Gemau Aml-ddefnydd, maes chwaraeon â gwair, mannau chwarae allanol, maes parcio i staff, a maes parcio ar gyfer gollwng/casglu disgyblion – cyfleusterau o’r radd flaenaf ydyn nhw na fyddai modd eu cynnig ar hen safle'r ysgol.
Mae mynediad pwrpasol i'r safle hefyd wedi’i adeiladu ar gyfer y disgyblion a’r teuluoedd hynny sy’n teithio i'r ysgol ar droed neu ar feic – er mwyn annog Teithio Llesol.
Mae Paneli Inswleiddio Strwythurol hefyd wedi'u gosod yn yr ysgol newydd – dyma’r cyntaf o ddatblygiadau ysgolion y Cyngor i ddefnyddio’r dull adeiladu cynaliadwy yma. Caiff y paneli eu cynhyrchu oddi ar y safle, ac maen nhw wedi'u hinsiwleiddio'n dda er mwyn lleihau'n sylweddol yr ynni a ddefnyddir ar gyfer gwresogi ac oeri. Maen nhw hefyd yn cynhyrchu llai o garbon yn y broses weithgynhyrchu a gosod.
Mae’r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd wedi’i ddarparu ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu wedi cyfrannu 65% o gost adeiladu'r ysgol.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg: “Rwyf wrth fy modd bydd modd i ddisgyblion a staff Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn fwynhau eu safle newydd ardderchog. Bydd yr adeilad o’r radd flaenaf llawer yn well na’u cyfleusterau blaenorol. Mae ardaloedd allanol newydd y datblygiad wedi manteisio ar y gofod eang sydd ar gael i wella cyfleoedd dysgu a chwarae awyr agored y disgyblion yn fawr. Law yn llaw â hyn, bydd trefniadau casglu/gollwng disgyblion yn y bore a'r prynhawn yn fwy diogel ac yn tarfu'n llai ar y safle mwy addas yma.
“Mae’r prosiect yma yng Nglynrhedynog yn cynrychioli’r buddsoddiad mawr diweddaraf mewn cyfleusterau addysg ar draws Rhondda Cynon Taf, diolch i’n partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Cafodd tair ysgol newydd eu hadeiladu yn y Ddraenen Wen, Cilfynydd a Rhydfelen ym mis Medi 2024, yn rhan o fuddsoddiad gwerth £79.9miliwn ar draws ardal ehangach Pontypridd. Symudodd Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Penygawsi i adeiladau newydd yn 2024 hefyd. Bydd gan Ysgol Gynradd Pont-y-clun adeilad newydd yn 2025, diolch i'r buddsoddiad drwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.
“Mae buddsoddiad wedi’i dargedu mewn addysg cyfrwng Cymraeg hefyd yn flaenoriaeth, yn unol â’r deilliannau uchelgeisiol yn ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Mae'r buddsoddiad ar gyfer Glynrhedynog yn dilyn prosiectau allweddol i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Rhydywaun yn 2022 – tra bod Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf wedi ehangu ein harlwy yn Rhydfelen o’r flwyddyn academaidd yma. Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau ym mhentref Beddau hefyd wedi elwa'n ddiweddar o gyfleusterau newydd, gan alluogi Cylch Meithrin Beddau i ehangu ei ddarpariaeth.
“Fel pob un o'n datblygiadau ysgol newydd, rydyn ni wedi anelu at gyflawni Carbon Sero-Net yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yn rhan o’n nodau ac ymrwymiadau Newid Hinsawdd. Mae’r cyfleusterau newydd yn cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan, ynghyd â mannau storio beiciau diogel i hyrwyddo Teithio Llesol, gan ein bod yn annog teuluoedd i gerdded i'r ysgol ac yn ôl lle bo’n bosibl, gan felly wella'u hiechyd a lles.
“Mae'r cyfleusterau newydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yn edrych yn wych, ac mae ein pobl ifainc a’n staff yn llwyr haeddu hynny. Bydd yr ysgol newydd yn gaffaeliad amhrisiadwy i gymuned leol Glynrhedynog am genedlaethau i ddod, gan hefyd wella’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer ardal ehangach Cwm Rhondda Fach. Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r ysgol yn fuan iawn, unwaith y bydd ein staff a’n disgyblion wedi ymgartrefu yn eu hamgylchedd newydd.”
Wedi ei bostio ar 09/01/25