Mae gan y Ddraenen Wen gampfa fodern, gyda chyfleusterau da ynghyd â'r ystafell ymarferion cylch cysylltiedig sy'n boblogaidd iawn gyda chwsmeriaid o bob oed.
Prisoedd
Aelodau Hamdden am Oes AM DDIM
Talu wrth ddefnyddio - £5.85
Gostyngiadau - £3.50
Sesiwn sefydlu: Am ddim
Cewch chi fwynhau cynifer o'n dosbarthiadau ag yr hoffech chi, mor aml ag yr hoffech chi, gyda'ch Aelodaeth Hamdden am Oes. Mae'r aelodaeth hefyd yn rhoi mynediad i chi ar ein system cadw lle ar-lein, fel bod modd i chi gadw lle ar eich hoff ddosbarth saith niwrnod ymlaen llaw. Os ydych chi'n dewis i dalu wrth ddefnyddio, cewch chi gadw lle ar ddosbarth ar fore y dosbarth.
Croeso i unrhyw un sy'n 11 oed neu'n hŷn ddefnyddio'r gampfa. O ganlyniad i resymau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch, rhaid ichi fod yn 16 oed neu'n hŷn i ddefnyddio'r pwysau rhydd. Does dim hawl gyda gwylwyr i fod yn y gampfa.
Mae'r ystafell ymarferion cylch 'Ffitrwydd am Oes' yn cynnwys cymysgedd blaengar o ymarferion cardio a gwrthiant. Dyma'r ystafell lle mae modd i chi gymryd rhan mewn dosbarthiadau - Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen dosbarthiadau.